Cwtyn y cynffon
Gwedd
![]() | |
| Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | asgwrn afreolaidd, endid anatomegol arbennig, asgwrn dynol |
| Rhan o | posterior part of pelvis |
| Cysylltir gyda | Sacrwm, sacrospinous ligament, sacrotuberous ligament, gluteal aponeurosis |
| Yn cynnwys | Co1 vertebra, Co2 vertebra, Co3 vertebra, Co4 vertebra |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01f7s_ |
| UMLS CUI | C0009194 |
| Quora | Coccyx |
Cwtyn y cefn (neu asgwrn cynffon) yw asgwrn bach trionglog ar fôn yr asgwrn cefn mewn bodau dynol ac epaod digynffon. Fe'i lleolir yn union o dan y sacrwm, ac mae'n cael ei gyfansoddi o bedwar fertebra cynffonnol ymasiedig; ond weithiau mae'r nifer un yn llai neu un yn fwy. Mewn tua 5% o'r boblogaeth, mae'r esgyrn yn sownd yn ei gilydd; yn y rhelyw, ceir symudiad bychan rhyngddyn nhw. Tailbone a coccyx yw'r geiriau Saesneg am gwtyn y cefn, yr olaf sy'n dod o'r Hen Roeg am ‘cwcw, y gog’, oherwydd bod cwtyn y cefn yn debyg i big y gog.
