Canser ofaraidd
| Enghraifft o: | math o glefyd |
|---|---|
| Math | neoplasm ofaraidd, canser y chwarren endocrin, rare genetic endocrine disease, inherited gynecological tumor |
| Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws NCI | C7431 |
| Freebase | /M/025hl8 |
| OMIM | 167000, 607893 |
| Quora | Ovarian-cancer-1 |
Canser ofaraidd yw math o ganser sy'n ffurfio oddi fewn neu ar ofari.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Pan gychwynnir y broses hon ni ymddangosir symptomau amlwg. Wrth i'r canser ddatblygu, felly hefyd y gwna'r symptomau.[3] Mae modd iddynt gynnwys bol chwyddedig, poen pelfig, chwyddo ynghylch yr abdomen, colli awydd bwyta, ac eraill. Lledaenir y canser yn aml i fannau eraill, ac ymhlith y lleoliadau mwyaf cyffredin y mae leinin yr abdomen, y nodau lymff, yr ysgyfaint, a'r afu.[4]
Mae'r risg o ddatblygu canser ofaraidd yn uwch ymhlith menywod sydd wedi ofylu'n sylweddol yn ystod eu hoes, gan gynnwys y rheini sydd erioed wedi cael plant. Gall hefyd gynnwys y rheini sy'n dechrau ofylu'n ifanc ynghyd ag unigolion sy'n profi'r mislif yn hŷn.[5] Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae derbyn therapi hormonau wedi'r mislif, meddyginiaeth ffrwythlondeb, a gordewdra. Gall rai ffactorau lleihau'r risg yn ogystal, er enghraifft rheoli geni hormonaidd, rhwymo pibennol a bwydo o'r fron. Mae oddeutu 10% o achosion yn gysylltiedig â risg genetig etifeddol ac os yr achosir mwtadiad yn y genynnau BRCA1 neu BRCA2 ceir siawns 50% o ddatblygu'r afiechyd.
Ni argymhellir sgrinio menywod yn gyffredinol oblegid nad yw tystiolaeth yn dangos gostyngiad mewn marwolaethau os gwneir hynny. Gall cyfradd uchel o brofion cadarnhaol arwain at lawdriniaethau diangen, sy'n cyflwyno risgiau yn eu hunain.[6] Mewn rhai achosion risg hynod uchel caiff yr ofarïau eu gwaredi o'r corff. Gellir dileu'r canser yn gyfan gwbl os caiff y cyflwr ei ddal a'i drin yn ei benodau cychwynnol. Fel arfer y mae triniaethau'n cynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, a chemotherapi.[7] Mae canlyniadau'n ddibynnol ar ledaeniad y clefyd, pa fath o is-ganser sy'n bresennol, ynghyd ag elfennau meddygol eraill.[8] Yn yr Unol Daleithiau goroesa 45% o ddioddefwyr o leiaf pum mlynedd wedi eu diagnosis. Ni cheir canlyniadau mor gry' yn y byd datblygol.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Seiden, Michael (2015). "Gynecologic Malignancies, Chapter 117". MGraw-Hill Medical. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2017. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
- ↑ "Defining Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2014. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.
- ↑ Ebell, MH; Culp, MB; Radke, TJ (Mawrth 2016). "A Systematic Review of Symptoms for the Diagnosis of Ovarian Cancer.". American journal of preventive medicine 50 (3): 384–94. doi:10.1016/j.amepre.2015.09.023. PMID 26541098.
- ↑ Ruddon, Raymond W. (2007). Cancer biology (arg. 4th). Rhydychen: Oxford University Press. t. 223. ISBN 9780195175431. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Medi 2015.
- ↑ "Ovarian Cancer Prevention (PDQ®)". NCI. 6 Rhagfyr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Screening for ovarian cancer: U.S. Preventive Services Task Force reaffirmation recommendation statement.". Annals of Internal Medicine 157 (12): 900–4. 18 Rhagfyr 2012. doi:10.7326/0003-4819-157-11-201212040-00539. PMID 22964825. https://archive.org/details/sim_annals-of-internal-medicine_2012-12-18_157_12/page/900.
- ↑ "Ovarian Epithelial Cancer Treatment (PDQ®)". NCI. 12 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2014.
- ↑ Gibson, Steven J.; Fleming, Gini F.; Temkin, Sarah M.; Chase, Dana M. (2016). "The Application and Outcome of Standard of Care Treatment in Elderly Women with Ovarian Cancer: A Literature Review over the Last 10 Years". Frontiers in Oncology 6. doi:10.3389/fonc.2016.00063. PMC 4805611. PMID 27047797. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4805611.
- ↑ "SEER Stat Fact Sheets: Ovary Cancer". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.