Llygoden y tŷ

Oddi ar Wicipedia
Llygoden y tŷ
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Muridae
Genws: Mus
Rhywogaeth: M. musculus
Enw deuenwol
Mus musculus
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad daearyddol

Llygoden fach frownllwyd a geir yn helaeth fel sborionwr mewn anheddau dynol yw llygoden y tŷ (Mus musculus). Mae'n doreithiog ledled y byd. Er ei fod yn anifail gwyllt, mae llygoden y tŷ wedi elwa o fyw ochr yn ochr â bodau dynol i'r pwynt bod poblogaethau gwirioneddol wyllt yn llawer llai cyffredin na'r rhai sy'n agos at weithgaredd dynol. Mae'n gyffredin yng Nghymru, lle mae ei statws yn "lleiaf o bryder".[1]

Mae llygod y tŷ yn frodorol i India, ac wedi ymledu i ardal ddwyreiniol Môr y Canoldir tua 13,000 CC, ond ni chyrhaeddon nhw weddill Ewrop tan oddeutu 1000 CC. Fe gyrhaeddon nhw'r America gyntaf ar ddechrau'r 16g ar longau fforwyr Sbaen. Tua chan mlynedd yn ddiweddarach, fe gyrhaeddodd Ogledd America gyda masnachwyr ffwr o Ffrainc a gwladychwyr o Loegr. Fe wnaethon nhw ledaenu wedi hynny i bob rhan o'r byd yn ystod y broses o wladychu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "House Mouse", Gwefan The Mammal Society; adalwyd 7 Mai 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.