Blasbwynt
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | darn o organ, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | system y synhwyrau, Tafod ![]() |
Yn cynnwys | taste bud cell ![]() |
![]() |
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | darn o organ, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | system y synhwyrau, Tafod ![]() |
Yn cynnwys | taste bud cell ![]() |
![]() |
Mae blasbwyntiau yn cynnwys celloedd derbyn blas. Mae derbynyddion blas wedi'u lleoli o amgylch strwythurau bach o'r enw'r papiliâu sydd ar wyneb y dafod, y daflod feddal, darn uchaf yr oesoffagws, y foch a'r epiglotis. Mae'r strwythurau hyn yn synhwyro pum canfyddiad blas: hallt, sur, chwerw, melys ac umami. Trwy gyfuniad o'r elfennau hyn rydym yn canfod "blasau." Mae'n fyth poblogaidd fod y pum blas hyn yn cael eu blasu ar rannau gwahanol o'r dafod. Mewn gwirionedd, gellir eu blasu ar unrhyw ran o'r dafod. Drwy dyllau bach ar epitheliwm - y mandyllau blas - mae darnau o'r bwyd yn cael eu hydoddi mewn poer ac yn dod i gysylltiad â'r derbynyddion blas. Mae'r rhain wedi'u lleoli ar frig y celloedd derbyn blas sy'n ffurfio'r blasbwyntiau. Mae'r celloedd derbyn blas yn anfon y wybodaeth sydd wedi'i synhwyo gan y clystyrau o dderbynyddion amrywiol a'r sianeli ïonau i ardaloedd blasu'r ymennydd drwy gyfrwng y seithfed, y nawfed a'r degfed nerf cranial.
Ar gyfartaledd, mae gan y dafod ddynol 2,000–8,000 o flasbwyntiau.