Sacsoneg Isel

Oddi ar Wicipedia

Iaith Ermanaidd a siaredir yng Ngogledd yr Almaen ac yn nwyrain yr Iseldiroedd yw'r Isel Almaeneg, yr Isalmaeneg neu'r Almaeneg Isel. Yr ieithoedd agosaf iddi yw Iseldireg ac Almaeneg.

Geirfa gyffredin[golygu | golygu cod]

Mae'r enghreifftiau wedi'u hysgrifennu yn Sillafiad Sacsoneg Newydd (Nysassiske Skryvwyse).

  • Helô - Moin
  • Bore da - Goden morgen / Morgen ouk
  • Prynhawn da - Goden dag / Dag ouk
  • Noswaith dda - Goden åvend / Åvend ouk
  • Nos da - Gode nacht
  • Diolch - Danke ouk
  • Fy enw ydy... - Ik heyt(e)...
  • Cymraeg ydy fy mamiaith. - Myn moderspråke is kymrisk.
  • Dw i ddim yn siarad Almaeneg. - Ik snak(ke) neyn/geyn/keyn düütsk.
  • Dw i eisiau dysgu rhagor o Isel Almaeneg. - Ik wil meyr sassisk leyren.
  • Dw i'n ymgyrchwr iaith. - Ik bin/bün språkaktivist.
  • Pam nad oes gennych chi fwydlen yn Isel Almaeneg? - Wårüm hebbet Jy neyn spyskaarte up plat/sassisk?