Carnolyn
Carnolyn Amrediad amseryddol: Paleocen -hyd yn ddiweddar, 65–0 Miliwn o fl. CP Yn fwy na phosib: o'r Cyfnod Cretasaidd hwyr-Presennol | |
---|---|
![]() | |
Mul, Equus africanus | |
Y Dolffin Trwyn-Potel Cyffredin, Tursiops truncatus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Inffradosbarth: | |
Uwchurdd: | Laurasiatheria |
Ddim wedi'i restru: | Carnolyn |
Orders | |
Carnolyn eilrif-fyseddog |
Grŵp enfawr ac amrywiol o famaliaid â charnau yw carnolion. Maent fel arfer yn byw yn yrroedd gyda'i gilydd ar dir agored lle mae digon o laswellt neu ddail. Mae'r ddafad yn anifail carnog yn ogystal a'r ceffyl, y fuwch, y giraff, y camel, y carw, yr hipopotamws, y morfil a'r dolffin.
Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi eu holl bwysau ar flaeanau eu carnau, tra'n symud. Ar wahân i'r mochyn, maent i gyd yn llysieuwr. Hyd at yn ddiweddar nid ystyriwyd y Morfiligion (y morfil, y llamhidydd a'r morfil) yn anifeiliaid carnol gan nad ydynt yn rhanu'r un priodweddau a chymeriad. Bellach, fodd bynnag, fe'u hystyrir yn perthyn i'r carnolyn eilrif-fyseddog.[1]
Arferid cyfri'r carnolyn yn Urdd, ond bellach mae wedi'r rannu i'r canlynol:
- carnolion odfyseddog (Perissodactyla)
- carnolion eilrif-fyseddog (Artiodactyla)
- Tubulidentata (aardvark)
- Hyracoidea (hyraxes)
- Sirenia (dugongs and manatees)
- Proboscidea (eliffantod)[2]
Ceir cryn anghytundeb am hyn, fodd bynnag ymhlith y gwyddonwyr.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Ursing, B. M.; Arnason, U. (1998). "Analyses of mitochondrial genomes strongly support a hippopotamus-whale clade". Proceedings of the Royal Society B 265 (1412): 2251–5. doi:10.1098/rspb.1998.0567. PMC 1689531. PMID 9881471. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1689531.
- ↑ Brent Hoffman http://www.ultimateungulate.com/whatisanungulate.html