Morfuwch

Oddi ar Wicipedia
Morfuchod
Morfuwch gyda llo
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Sirenia
Teulu: Trichechidae
Gill, 1872
Genws: Trichechus
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

Trichechus inunguis
Trichechus manatus
Trichechus senegalensis

Un o famaliaid mawr y dŵr yw'r forfuwch (teulu Trichechidae, genws Trichechus). Mae'r Trichechidae yn wahanol i'r Dugongidae o ran siâp y penglog a'r gynffon. Mae cynffon y forfuwch ar ffurf rhwyf; cynffon fforchog sydd gan y dwgong. Llysysydd yw'r forfuwch, yn treulio llawer o'i hamser yn pori mewn dyfroedd beision.

Ceir y forfuwch ym morfeydd beision arfordiroedd Gogledd, Canol a De America, a Môr y Caribî.

Mae un rhywogaeth (Trichechus senegalensis) yn byw ar arfordir gorllewinol Affrica, un arall (T. inunguis) i'w chael ar arfordir dwyreiniol De America, a thrydedd rhywogaeth (T. manatus) yn India'r Gorllewin yn y Caribî. Cred rhai fod Morfuwch Florida yn rhywogaeth wahanol, ond yn ôl yr Integrated Taxonomic Information System isrywogaeth i T. manatus ydyw; dyma'r farn gyffredin bellach. Gall dyfu i 4.5 medr (15 troedfedd) o hyd, ac mae'n byw mewn dŵr croyw a dŵr hallt. Ar un adeg câi'r creadur ei hela oherwydd ei gnawd a'i olew, ond mae cyfraith yn ei warchod erbyn hyn.

Mae Morfuwch y Caribî yn rhywogaeth mewn perygl. Er nad oes ganddi ysglyfaethwr naturiol, mae ymlediad dyn wedi lleihau maint ei chynefin yn y morfeydd arfordirol, a chaiff llawer o forfuchod eu clwyfo gan felinau gyrru cychod modur. Yn aml bydd morfuchod yn llyncu offer pysgota (bachau, pwysi metel a.y.b.) wrth fwyta. Ymddengys nad yw'r deunyddiau estron hyn yn niweidio morfuchod, oni bai am gortynnau wedi'u gwneud o unffibryn: gall y rhain fynd yn sownd yn sustem dreulio'r anifail, a'i ladd yn araf bach.

Yn aml iawn mae morfuchod yn ymgasglu o gwmpas pwerdai, sy'n cynhesu'r dyfroedd. Maent wedi dod i ddibynnu ar y ffynhonnell hon o wres annaturiol, ac wedi peidio mudo i ddyfroedd cynhesach gan fod y dŵr hwn yn gynnes o hyd. Mae rhai pwerdai wedi cael eu cau; gan wybod mor ddibynnol mae'r morfuchod arnynt erbyn hyn, mae Gwasanaeth Pysgod a Bywyd Gwyllt yr Unol Daleithiau yn ceisio dod o hyd i ffyrdd eraill o gynhesu'r dŵr i'r morfuchod.

Morfuwch