Jiráff

Oddi ar Wicipedia
Jiráff[1]
Jiraffod yn ymladd yng Ngwarchodfa Ithala, KwaZulu-Natal, De Affrica.
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamal
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Giraffidae
Genws: Giraffa
Rhywogaeth: G. camelopardalis
Enw deuenwol
Giraffa camelopardalis
(Linnaeus, 10fed cyfrol o Systema Naturae; 1758)
Isrywogaeth

9

Map lleoliad gan ddangos yr isrywogaethau

Carnolyn mawr gyddfhir, buandroed a chilgnöol o Affrica yw'r jiráff neu'r jyraff (lluosog: jiraffod; Lladin: Giraffa camelopardalis), ef yw'r pedwartroedyn byw talaf. Daw'r enw o'r gair Arabeg zurāfa, zarāfa (زرافة), a darddodd yn ei dro o'r Berseg zurnāpā (زُرنَاپَا‎).[3] Ystyr llythrennol y gair ydy ‘coes ffliwt(aidd)’.[4] Mae'r oedolyn yn 5–6 m (16–20 tr) o daldra ac yn pwyso 1,600 kg (3,500 pwys) ar gyfartaledd, er mai 830 kg yn unig yw'r fenyw.

Mae'n perthyn i deulu'r Giraffidae, gyda'i berthynas agosaf - yr ocapi. Gellir gwahaniaethu rhwng y naw is-rywogaeth drwy batrymau eu cyrff.

Mae ei diriogaeth, bellach, ar chwâl ac wedi'i leoli o Tsiad yn y gogledd i Niger yn y gorllewin a chyn belled a Somalia yn nwyrain Affrica.

Glaswelltir agored, safanâu a choetiroedd agored yw ei gynefin a'i brif fwyd yw dail y goeden acasia. Mae hyd eu gwddw ac uchder eu cyrff yn golygu mai nhw'n unig a all gyrraedd y dail, yn aml. Cânt eu lladd am fwyd gan y llew ac mae'r jiráff ifanc yn cael ei hela hefyd gan y llewpard, yr udfil mannog (Saes. spotted hyena) a'r ci gwyllt Affrica. Does gan y jiraffod ddim cwlwm tynn iawn at ei gilydd, fel parau, nac yn gymdeithasol, er eu bod yn cadw at ei gilydd gan gadw at ei gilydd wrth symud i'r un cyfeiriad. Ar ei phen ei hun mae'r fenyw yn magu'r llo. Drwy ymladd gyda'u gyddfau, mae'r gwryw yn cyrraedd ei safle hierarchaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Grubb, P. (2005). "Giraffa camelopardalis". In Wilson, D. E.; Reeder, D. M (gol.). Mammal Species of the World (arg. 3rd). Gwasg Prifysgol Johns Hopkins. t. 672. ISBN 978-0-8018-8221-0. OCLC 62265494.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. Fennessy, J.; Brown, D. (2010). "Giraffa camelopardalis". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2012.2. International Union for Conservation of Nature. Cyrchwyd 2013-01-26.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: ref=harv (link)
  3. "Giraffe". Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd 2011-11-01.
  4. Kingdon, J. (1988). East African Mammals: An Atlas of Evolution in Africa, Volume 3, Part B: Large Mammals. University Of Chicago Press. tt. 313–37. ISBN 0-226-43722-1.