Ffured

Oddi ar Wicipedia
Ffured
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Genws: Mustela
Rhywogaeth: M. putorius
Isrywogaeth: M. p. furo
Enw trienwol
Mustela putorius furo
(Linnaeus, 1758)

Mae ffured (Mustela putorius furo) yn famal o'r genws Mustela. Mae'n greadur meingorff gyda blew melynwyn sy'n perthyn i dylwyth y ffwlbart a'r wenci. Credir iddo gael ei led-ddofi am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cael ei ddefnyddio i hela cwningod a llygod mawr trwy ei dychryn allan o'u tyllau. Erbyn heddiw mae'n anifail mynwes eithaf cyffredin yn ogystal.

Gelwir rhywun sy'n defnyddio ffuredau i hela yn ffuredwr.

Ffured[golygu | golygu cod]

Aristophanes a soniodd gyntaf am ‘’ffured’’ yn 450 CC ac wedyn Aristotl yn 350BC. Ysgrifenwyr Groeg a Rhufain yr Henfyd yn y ganrif gyntaf AD oedd y cyntaf i dystio am ddefnyddio ffuredi i hel cwningodo’u tyllau. Daeth y disgrifiadau cysàct cyntaf o ffuredi o Strabo tua 200 AD, pan y rhyddhawyd ffureti ar Ynysoedd y Balearig i reoli cwningod. O gofio bod y gwningen yn frodorol i Benrhyn Iberia ac gogledd-orllewin Affrica, yn y parthau hynny y cafodd y ffwlbart ei hyweddu.[1].

Mae’r ffured a’r ffwlbart yn debyg iawn i’w gilydd o ran maint a chyfrannedd, i’r graddau nad yw’n bosib gwahaniaethu ffuredi o flew tywyll oddi wrth eu cefndryd gwyllt, er fod penglog y ffured gyda chyfaint llai na’r ffwlbart a gwasgfa post-orbitaidd llymach[2]. O gymharu a’r ffwlbart mae gan y ffured ymennydd syweddol lai, er na wnaethpwyd y gymhariaeth honno gyda ffwlbartod Môr y Canoldir sef hynafiaid uniongyrchol y ffured[3]. Atgyfnerthir y theori o darddiaid Mediteranaidd y ffured gan y ffaith ei fod yn llai goddefol o oerfel nag isrywogaethau gogleddol y ffwlbart[4]. Mae’r ffured yn fwy ffrwythlon hefyd na’r ffwlbart; mae’n cynhyrchu dau dorllwyth y flwyddyn neu fwy, o’i gymharu ag un y ffwlbart[5][6]. Yn wahanol i is-rywogaethau eraill, sydd yn greaduriaid unig, mae’r ffured yn barod iawn i fyw mewn grwpiau cymdeithasol[7]. Mae’r ffured yn fwy araf ei holl symudiadau na’r ffwlbart, ac ni ddefnyddia braidd byth chwarennau drewllyd ei sawr rhefrol[8] Overall, the ferret represents a neotenous form of polecat.[9].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewington 2000, tt. 3–5
  2. Harris & Yalden 2008, tt. 485–487
  3. Hemmer 1990, t. 108
  4. Clutton-Brock, J. (1987). A Natural History of Domesticated Mammals. London: British Museum (Natural History). t. 208. ISBN 0-521-34697-5.
  5. Bednarz M. Observations on reproduction in polecat and ferret hybrids (abstract). Anim Breed 1962;30:239.
  6. Bednarz M. Preliminary observations on the growth and development of polecat and ferret hybrids (abstract). Anim Breed 1962;30:239
  7. Brown, Susan, A. "Inherited behavior traits of the domesticated ferret". weaselwords.com. Cyrchwyd 29 Ionawr 2010.
  8. Hemmer 1990, t. 86
  9. Lewington 2000, tt. 93
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.