Petrisen

Oddi ar Wicipedia
Petrisen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasianidae
Genws: Perdix
Rhywogaeth: P. perdix
Enw deuenwol
Perdix perdix
(Linnaeus, 1758)
Perdix perdix

Mae'r Betrisen (Perdix perdix) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod. Mae'n nythu ar draws Ewrop a gorllewin Asia ond mae hefyd wedi ei ollwng yn fwriadol mewn rhannau eraill o'r byd, megis Gogledd America oherwydd ei fod yn boblogaidd gyda saethwyr.

Ar lawr y mae'r Betrisen yn nythu, yn aml ger ymylon caeau ŷd. Dodwyir hyd at 20 ŵy. Nid yw'r Betrisen yn aderyn mudol ac mae'n casglu yn heidiau yn y gaeaf, er nad yw'r niferoedd yn yr haid yn fawr fel rheol. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Gellir adnabod y Betrisen yn weddol hawdd os ceir golwg dda arni. Mae'n aderyn canolig o ran maint, 28–32 cm o hyd, felly yn llai na'r Ffesant, gyda brown ar y cefn a llwyd ar y bol, wyneb oren a darn browngoch ar y bol. Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng yr iâr a'r ceiliog.

Mae niferoedd y Betrisen wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru yn yr hanner can mlynedd diwethaf, yn ôl pob tebyg oherwydd newidiadau amaethyddol. Erbyn hyn mae'n aderyn eithaf prin mewn llawer o ardaloedd.

Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Pan oeddwn yn fachgen ifanc yn y chwedegau ac yn mynd i saethu gyda fy nhad roeddwn yn gweld yr aderyn yma yn aml ond bellach mae yn aderyn gweddol brin yng Nghymru. Nid oeddwn yn disgwyl gweld yr aderyn yma wrth i mi deithio i Lanrwst ar draws fynydd Hiraethog. Mawrth 28, 2012. SH842550[1]

Dyma gofnodion o ddyddiadur DO Jones, Padog o’r un ardal:

Awst 20fed 1934: Torri gwair hefo pladur yn Nghae Tan Ty. Cael andros o fraw — petrisen yn ymosod arnaf. Honno hefo nyth a llawer iawn o gywion bach yn y gwair. Dechrau torri gwair yn pen arall i'r cae. Dipio wyn a defaid yn twb dipio Ty Nant yn y Foty.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Alun Willams, Bwletin Llên Natur rhifyn 53
  2. Dyddiadur DO Jones, Padog, Ysbyty Ifan, (yn eiddo i’r teulu, ond y testun ar Tywyddiadur Llên Natur [1])