Ffesant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffesant
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasianidae
Genws: Phasianus
Rhywogaeth: P. colchicus
Enw deuenwol
Phasianus colchicus
Linnaeus, 1758
Phasianus colchicus
Phasianus colchicus

Mae'r Ffesant (Phasianus colchicus ) yn aelod o deulu'r Phasianidae (lluosog: ffesantod). O Asia y daw yn wreiddiol ond mae'n aderyn cyfarwydd trwy ran helaeth o'r byd oherwydd ei boblogrwydd gyda saethwyr.

Mae'r ffesant yn aderyn cymharol fawr, 50–90 cm o hyd, gyda'i chynffon hir yn gyfrifol tua hanner hyn. Brown yw'r rhan fwyaf o blu'r ceiliog, ond mae'r gwryw yn aderyn lliwgar gyda phen gwyrdd a darnau coch, gwyn, porffor a gwyrdd ar y corff. Mae'r iâr yn llai tarawiadol, gyda phlu brown a chynffon fyrrach. Mae gan un is-rywogaeth, P. c. torquatus, goler wen, tra nad oes coler gan P. c. colchicus.

Brodor o'r dwyrain pell yw'r ffesant a chyrhaeddodd Gymru tua'r 16g. Fe'i ceir yn y rhan fwyaf o gynefinoedd ar dir isel gan gynnwys coedwigoedd, tir amaethyddol a gwlyptiroedd. Rhyddheir tua 40 miliwn o adar ar gyfer eu saethu yn y DU pob blwyddyn. Dengys gwaith maes 2008-12 fod y ffesant yn gyffredin yn y rhan fwyaf o ogledd Cymru. Ceir y nifer fwyaf lle mae stadau saethu mawr yn rhyddhau adar i'w hela. Oni bai am yr adar hela, byddai'r ffesant yn llawer llai cyffredin, gan nad yw'n nythu'n llwyddiannus lawn yn y gorllewin.[1]

Cynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ffesant yn byw ar dir amaethyddol gyda chymysgedd o gaeau a choed fel rheol, a'i brif fwyd yw grawn a phryfed. Adeiledir y nyth ar lawr, ac mae'n dodwy oddeutu deg wy. Gwell ganddynt redeg ar hyd y llawr na hedfan, ond gallant hedfan yn dda ac yn gyflym pan fydd rhaid.

Yn Atlas Adar Gogledd Cymru[2] nodwyd bod y ffesant (ynghyd â’r adar cyffredin eraill hyn: Llinos, Gwennol, Siglen Fraith, Pioden, Cudyll Coch,Ydfran, Jac-y-do, Bran Dyddyn a Llwydfron) yn nodweddiadol o “Dir amaethyddol â nodweddion ffiniol - gwrychoedd, waliau, ffosydd a thraciau”

Mae'n aderyn cyffredin mewn coedlannau ac ar dir amaethyddol; mae ganddi gorff fel iâr fuarth â chynffon hir. Mae lliwiau'r ceiliog yn amrywio ond fel rheol, mae ganddo gorff browngoch, ystlys gopr a smotiau du, crwmp browngoch neu wyrdd golau, coler wen, pen gwyrdd a bochau coch. Mae'r iâr yn llai o faint, yn frown golau gyda smotiau brown tywyll ar ei chefn a'i hystlys. Ceir llinellau brown golau ar draws ei chynffon. Gall y cywion hedfan cyn tyfu'n llawn ond mae eu cynffonnau a'u gyddfau hir yn amlwg.[3].

Lledaeniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn hyn, oherwydd cyflwyno helaeth, ceir yr aderyn yma ar draws Ewrop a Gogledd America, ac arferir yn aml ryddhau miloedd lawer ohonynt gan saethwyr ar ôl eu magu'n bwrpasol. Credir iddynt gael eu gollwng yn Ynysoedd Prydain am y tro cyntaf yn y 10g ond yr oeddynt wedi diflannu erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif gollyngwyd mwy o adar yn y 1830au ac maent yn awr yn adar cyffredin.

Enwau a'u tarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg y daw'r enw Cymraeg FFESANT o'r Lladin (Phasianus) trwy'r Saesneg Pheasant[angen ffynhonnell] Ceir nifer o enwau Cymraeg amgen gan gynnwys: Ceiliog y Coed, Coediar, Iâr Goed, Ceilog (sic) Gem.

O'u dehongli'n ofalus, mae enwau Llydaweg yn gallu bod yn ddadlennol o dras enwau cyffelyb yn y Cymraeg yn sgîl y ffaith fod y ddwy iaith yn rhannu'r un gwraidd yn dilyn tonnau o symudiadau o Gernyw a Chymru i Armorica yn y 6ed hyd yr 8ed ganrif. Enw'r ffesant Phasaianus colchicus yn y Llydaweg heddiw yw fazan (Llyd. : fazan/fezan/fezant).

Mae’r gair Llydaweg “fazan” yn ymddangos am y tro cyntaf yn 1464 yn llawysgrif gynnar Catholicon, sef geiriadur tairieithog (Lladin, Ffrangeg, Llydaweg) a’r ffurf oedd “faessent”. “Faessant” oedd y ffurf brintiedig yn y Catholicon erbyn 1499.

Mae geiriadur Ffrangeg-Llydaweg Martial Ménard[4] yn cynnig “fazan-kolc’his” ac yn mynd yn ôl at darddiad enw’r aderyn hwn a gyrhaeddodd Ewrop yn y Canol Oesoedd: Phasianus colchicus (Linnaeus, 1758).

Kolchis/Κολχίς yw enw Groegaidd hen deyrnas Georgaidd yn nwyrain y Môr Du a oedd yn adnabyddus i’r hen Roegwyr. Daw enw’r aderyn o Phásis/Φάσις” sef enw afon fwyaf Gorllewin Georgia, sy’n llifo i’r Môr Du ger Poti. Enw’r afon hon heddiw yw Rioni.

Mae’r arfer o ychwanegu enw gwlad at enw adar y buarth yn rhywbeth cyffredin yn y Llydaweg. Er enghraifft yar-Spagn (iâr Sbaen) am iâr gini, yar-Indez (iâr India) am dwrci (gw. Dinde yn Ffrangeg). Bryd hynny nid oedd gwybodaeth ddaearyddol y Llydawyr yn eang ac roedd tuedd i gymysgu Sbaen a Thwrci hyd yn oed!

Ymchwil Dominig Kervegant[5]

Hanes yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Canoloesoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er gwaetha honiadau cyffredin mai'r Rhufeiniaid a gyflwynodd y ffesant i Brydain, nid oes tystiolaeth i gefnogi hyn - Y Normaniaid yn yr 11g sydd debycaf o fod wedi gwneud. Fodd bynnag roedd ei ymlediad i Gymru yn araf ac ni chawn sôn amdano yma tan gyfnod y Tuduriaid, a hynny mewn modd sydd yn awgrymu mai newydd ddyfodiaid oeddent. Yn un o'r cyfeiriadau cynharaf at y rhywogaeth yng Nghymru mae Owen (1603) yn disgrifio ei statws yn Sir Benfro'r cyfnod fel: "As for the Pheasant, in my memorie there was none breedinge within the shire until about XVJ years past Sir Thomas Perrot Knight procured certain hens and cockes to be transported out of Ireland. Awgrymai hynny fod y cyflwyniadau cyntaf i dde-orllewin Cymru yn dyddio o tua 1586. Ceir cyfeiriad arall i ffesantod ger Llanddwywe (Dyffryn Ardudwy), Meirionnydd, mewn cerdd anghyhoeddiedig gan Gruffydd Hiraethog, cyflwyniadau cyfoes eto fe ymddengys.[6]

Does dim amheuaeth nad oedd cyflwyniadau eraill ond roedd y ffesant yn aderyn digon anghyfarwydd dros y rhan fwyaf o Gymru y tu allan i'r ychydig o ystadau mawrion. Yn wir esgorodd un ceiliog ffesant o ystad gerllaw ar stori ymysg gwerin Dyffryn Edeyrnion (Meirionnydd) fod gwiber adeiniog rhyfedd gyda chorff hir a chen lliwgar â'i thraed yn rhydd yn yr ardal!

18g a'r 19g[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn aderyn digon prin yn y rhan fwayf o siroedd Cymru yn ôl pob tystiolaeth tan ddiwedd y 18g; mae'r dystiolaeth o hyn yn cynnwys cofnodion ystadau megis Gogerddan (Sir Aberteifi) sy'n dangos bod y ffesant yn cynrycholi y ganran fwyaf o holl helfilod a saethwyd erbyn y 1840au. Yn y Waun, Sir Ddinbych, cynrychiolai mwy na thraean o'r holl gêm a saethwyd yn y ddegawd 1827-36[6].

Dyma restr CEM Edwards, Dolgellau[7], yn cymharu helfa 16 Rhagfyr 1871 hyd 18 Ionawr 1872 ar stadau yn ardaloedd Dolgellau a'r Bala:

  1. Shot at Dolserau, [Dolgellau]:

  2. Woodcock 23
  3. Pheasant 4
  4. Redwing 1
  5. Partridge 13
  6. Mallard 1
  7. Starling 1
  8. Snipe 12
  9. Curlew1
  10. Rabbit 8
  11. Woodpigeon 3
  12. Hare 12
  13. Fieldfare 3

    = 82 head

  1. Shot at Pale, [Y Bala]:

  2. Woodcock 17
  3. Pheasants 92
  4. Partridge 5
  5. Woodpigeon 1
  6. Hare 7
  7. Grouse 2
  8. Rabbit 50

    = 174 head

Mae'r gymhariaeth yn awgrymu bod Neuadd y Palé, ger Llandderfel, Gwynedd yn fenter ffesantod mwy sylweddol na stadau cyffiniau Dolgellau.

Nid tan ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g y cychwynnodd cyfnod y cynnydd mawr yng nghadwraeth y ffesant ar gyfer hela. Yn y cyfnod hwn roedd y ffesant yn brin y tu allan i'r stadau - er enghraifft ardaloedd y meysydd glo, hyd yn oed pan gynrychiolai hanner y cyfrif o helgig yn ôl eu cofnodion.

Ym Mhenfro yn yr 1800au hwyr cofnododd Mathew (1894) mai adar o dras Tsieiniaidd torquatus newydd eu cyflwyno oedd mwyafrif adar y sir, a'u bod yn ymgartrefu amlaf yn y mannau uchaf a gwlypaf. Yng ngogledd Cymru fodd bynnag nid oedd ffesantod yn gyffredin y pryd hynny [CEM Edwards] y tu hwnt i'r mannau lle y'u rhyddhawyd. Dyfynnodd H.E. Forest (1907) hanes croesiad rhwng ffesant a iar ori a saethwyd rhywbryd yn ystod y ganrif flaenorol.

Yn ne-ddwyrain Cymru, er gwaethaf y niferoedd a ryddhawyd ar nifer o stadau, parhaodd yn brin. Ym Mrycheiniog cyfyngwyd y rhyddhau i ddyffrynnoedd yr afonydd Wysg a Gwy[6].

Yr 20fed Ganrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Cwympodd nifer y ffesantod yn drawiadol yn ystod y Rhyfel Mawr o ddiffyg rhyddhau ac am ychydig ar ôl y rhyfel, er i'r ciperiaid ddychwelyd i'w galwedigaeth, ni fagwyd ffesantod byth eto yng Nghymru ar yr un raddfa.

Rhwng y ddau ryfel byd cynyddodd y ffesantod eto i raddau yn y siroedd a welodd sefydlu planhigfeydd coed yn yr ucheldir a ganiataodd iddynt fyw yn uwch na chynt. Lleihaodd y niferoedd yn gyffredinol serch hynny, gan ddwysáu yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chynyddu rhywfaint drachefn yn y cyfnod 1950-70, trai fu'r hanes wedyn wrth i lai o stadau ryddhau adar i'r gwyllt.

Erbyn yr 1950au ychydig iawn o ffesantod gwyllt a oroesai yn Sir Gaerfyrddin a bu'n aderyn prin ym Meirionnydd lle na allai'r boblogaeth isel gynnal ei hun heb ryddhau adar. Y pryd hynny cyfyngwyd poblogaeth fechan Sir Forgannwg i ddwyrain y sir, i'r Fro ac i Ddyffryn Gŵyr. Yn Sir Fynwy credai Ferns (1976) bod y boblogaeth yn llai nag yr honnwyd a chysidro'r nifer fechan o gofnodion nythu a dderbyniwyd pob blwyddyn.

Symudiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ymchwil (Bray 1968) yn dangos mai aderyn anghrwydr yw'r ffesant; saethwyd 61% o adar â thag ar eu hadain o fewn 400m o'r fan lle'u rhyddhawyd, gyda llai na 1% yn crwydro mwy na 2 km.

Llên a Llên Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Un dywediad diddorol am y ceiliogod ffesant yw hwn o Gwm Eigiau: "Ceiliogod ffesant yn clegar ar ei gilydd - storm o daranau ar ei ffordd yn rhywle."

Ymddygiad anghyffredin y Ffesant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cadwyd dyddiadur o ffesantod mewn gardd yn Llandudno dros gyfnod o saith mlynedd rhwng 2004- 2011.[8] lle gwelwyd fod y ceiiog ffesant yn ymosod ar ei adlewyrchiad mewn panel haul. Gwelwyd ei fod yn greadur dof iawn sydd ar adegau'n clwydo ar ganghennau coed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 2014 Adar Nythu Gogledd Cymru
  2. Brenchley, A et al Adar Nythu Gogledd Cymru, LUP
  3. Llyfr Adar Iolo Williams; Gwasg Carreg Gwalch
  4. Palentines, (2015) Nodyn:Angen teitl
  5. Cysylltiad personol
  6. 6.0 6.1 6.2 Lovegrove, R., Williams, G., a Williams, I., (1994); Birds in Wales, Cyh: T. & A.D. Poyser
  7. The Sporting Diary of CEM Edwards MS yng ngofal Archifdy Dolgellau, ceir trawsgrifiad ar gael ar y Tywyddiadur, Nodyn:Www.llennatur.cymru
  8. Sylwadau personol Gareth Pritchard, Llandudno