Geoffrey Chaucer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Chaucer)
Geoffrey Chaucer
Geoffrey Chaucer (llun dychmygol)
Ganwydc. 1343 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farwc. 25 Hydref 1400 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, bardd, awdur geiriau, athronydd, gwleidydd, cyfieithydd, astroleg, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 1386 Parliament Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Canterbury Tales, The Book of the Duchess, The House of Fame, Troilus and Criseyde, The Legend of Good Women, The compleynt unto Pity, A Treatise on the Astrolabe, The compleynt of Venus, The Complaint of Mars, Chaucer's complaint unto his purse, Boece, Parlement of Foules, The Romaunt of the Rose, Anelida and Arcite Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
TadJohn Chaucer Edit this on Wikidata
MamAgnes Copton Edit this on Wikidata
PriodPhilippa Roet Edit this on Wikidata
PlantThomas Chaucer, Elizabeth Chaucer, Lewis Chaucer Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor Saesneg a Sais oedd Geoffrey Chaucer (c. 134325 Hydref, 1400?). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Canterbury Tales ("Chwedlau Caergaint").[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llundain tua 1343, ond does dim sicrwydd am y dyddiad hwnnw. Bu'n ŵr llys, diplomydd a gwas sifil. Pan ymosododd Edward III, brenin Lloegr, ar Ffrainc yn nechrau'r Rhyfel Can Mlynedd, aeth Chaucer i Ffrainc gyda Lionel o Antwerp, Dug Clarence. Yn 1360, cymerwyd ef yn garcharor yng ngwarchae Reims; cafodd ei ryddhau am dâl.

Nid oes llawer o fanylion ar gael am ei fywyd, ond ymddengys iddo deithio yn Ffrainc, Sbaen a Fflandrys, ac iddo efallai fynd ar bererindod i Santiago de Compostela. Tua 1366, priododd Philippa (de) Roet. Ymwelodd a Genova a Fflorens yn 1373, a chredir i farddoniaeth yr Eidal ddylanwadu arno.

Yn 1374 cafodd swydd Comptroller porthladd Llundain, swydd a ddaliodd am ddeuddeng mlynedd. Credir iddo ysgrifennu'r rhan fwyaf o'i weithiau yn y cyfnod yma, gan ddechrau gweithio ar The Canterbury Tales yn y 1380au cynnar. Daeth yn Aelod Seneddol dros Swydd Caint yn 1386.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Cerddi byrion[golygu | golygu cod]

  • An ABC
  • Chaucers Wordes unto Adam, His Owne Scriveyn
  • The Complaint unto Pity
  • The Complaint of Chaucer to his Purse
  • The Complaint of Mars
  • The Complaint of Venus
  • A Complaint to His Lady
  • The Former Age
  • Fortune
  • Gentilesse
  • Lak of Stedfastnesse
  • Lenvoy de Chaucer a Scogan
  • Lenvoy de Chaucer a Bukton
  • Proverbs
  • To Rosemounde
  • Truth
  • Womanly Noblesse

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Poets' Corner History" (yn Saesneg). WestminsterAbbey.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-24. Cyrchwyd 12 Mai 2020.