Caint
| Math | siroedd seremonïol Lloegr |
|---|---|
| Ardal weinyddol | De-ddwyrain Lloegr, Lloegr |
| Prifddinas | Maidstone |
| Poblogaeth | 1,855,842 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,738.4799 km² |
| Yn ffinio gyda | Essex, Dwyrain Sussex, Surrey, Llundain Fwyaf, Sir Llundain |
| Cyfesurynnau | 51.19°N 0.73°E |
| GB-KEN | |
![]() | |

Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-ddwyrain Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km². Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.

Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop – dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cap Gris-Nez, gogledd Ffrainc.
Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng "Caint" a'r gair Cymraeg cantel ('ymyl'), gan ei bod ar "ymyl" Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma yr Iwtiaid a greasant deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y 5g, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol brin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg,[1] er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.[2]
Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y 6g.
Enw arall a roddir ar Gaint yw'r "Garden of England" ("Gardd Lloegr") oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ("oast-houses"), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ardaloedd awdurdod lleol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn ddeuddeg ardal an-fetropolitan ac un awdurdod unedol:

Etholaethau seneddol
[golygu | golygu cod]Rhennir y sir yn 17 etholaeth seneddol yn San Steffan:
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr
- Ynys Gaint, ger Porthaethwy
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dinas
Caergaint
Trefi
Ashford · Broadstairs · Chatham · Cranbrook · Dartford · Deal · Dover · Edenbridge · Faversham · Folkestone · Fordwich · Gillingham · Gravesend · Hawkinge · Herne Bay · Hythe · Lydd · Maidstone · Margate · Minster-on-Sea · New Romney · Northfleet · Paddock Wood · Queenborough · Rainham · Ramsgate · Rochester · Royal Tunbridge Wells · Sandwich · Sevenoaks · Sheerness · Sittingbourne · Snodland · Southborough · Strood · Swanley · Swanscombe · Tenterden · Tonbridge · Walmer · West Malling · Westerham · Westgate-on-Sea · Whitstable
