Ardal Folkestone a Hythe
Gwedd
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Caint |
Prifddinas | Folkestone |
Poblogaeth | 110,237 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 356.7648 km² |
Cyfesurynnau | 51.0789°N 1.1746°E |
Cod SYG | E07000112 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Folkestone and Hythe District Council |
Ardal an-fetropolitan yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Ardal Folkestone a Hythe (Saesneg: Folkestone and Hythe District; Ardal Shepway gynt).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 357 km², gyda 112,578 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Ashford i'r gorllewin, Dinas Caergaint ac Ardal Dover i'r gogledd, y Môr Udd i'r dwyrain, a Dwyrain Sussex i'r de.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, o dan yr enw "Ardal Shepway". Fe'i hailenwyd yn "Folkestone a Hythe" ym mis Ebrill 2018.
Rhennir yr ardal yn 30 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Folkestone. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Hythe, Hawkinge, Lydd a New Romney.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 29 Ebrill 2020