Neidr y gwair
| Neidr y gwair | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Squamata |
| Is-urdd: | Serpentes |
| Teulu: | Colubridae |
| Genws: | Natrix |
| Rhywogaeth: | N. natrix |
| Enw deuenwol | |
| Natrix natrix Linnaeus, 1758 | |
Mae Neidr y gwair (Natrix natrix; hefyd neidr lwyd, neidr fraith) yn golwbriad Ewrasia anwenwynig lled-ddyfrdrig.
Yn nodweddiadol mae Neidr y gwair yn wyrdd tywyll neu'n frown mewn lliw efo coler melyn tu ôl i'r pen. Gall y lliw hefyd amrywio o lwyd i ddu. Mae'r ochr isaf yn oleuach mewn lliw. Ym Mhrydain Neidr y gwair yw'r ymlusgiad fwyaf yn cyrraedd hyd at 120 cm mewn hyd.
Maent yn ysglyfaethu'n bennaf ar amffibiaid, yn enwedig y froga cyffredin (Rana temporaria), er bod nhw weithiau'n bwyta mamolion a physgod. Mae Nadroedd y gwair yn nofwyr cryf ac fel arfer yn cael eu ddarganfod yn agos i ddŵr croyw.
Darganfyddir y neidr mewn ardaloedd iseldir Lloegr a Chymru ond mae bron yn absennol o'r Alban ac ni ffeindir yn Iwerddon. Mae ganddo ddosbarthiad llydan yn Ewrop cyfandirol, o dde'r Llychlyn i dde'r Eidal. Darganfyddir hefyd yng ngogledd-gorllewin Affrica. Mae Nadroedd y gwair Prydeinig yn perthyn i'r isrywogaeth Natrix natrix helvetica, ond mae arbenigwyr wedi'u gwahaniaethu ar y nifer o isrywogaethau.