Novosibirsk
Math | dinas fawr, tref/dinas |
---|---|
Poblogaeth | 1,633,595 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Maksim Kudryavtsev |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Amser Omsk, Amser Krasnoyarsk |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Novosibirsk |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 505.6 km² |
Uwch y môr | 150 metr |
Gerllaw | Afon Ob, Afon Inya |
Yn ffinio gyda | Novosibirsky District, Berdsk |
Cyfesurynnau | 55.0333°N 82.9167°E |
Cod post | 630000, 630992 |
Pennaeth y Llywodraeth | Maksim Kudryavtsev |
Trydedd dinas fwyaf Rwsia ar ôl Moskva a St Petersburg yw Novosibirsk (Rwsieg Новосиби́рск). Dinas fwyaf Siberia a chanolfan weinyddol Oblast Novosibirsk a Thalaith Ffederal Siberia yw hi hefyd. Lleolir yn ne-orllewin Siberia, ar Afon Ob, un o afonydd mwyaf Rwsia. Sefydlwyd ym 1893 fel croesfan ar gyfer y rheilffordd Draws-Siberaidd dros yr afon. Ei enw o 1895 tan 1925 oedd Novonikolayevsk.
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae'r hinsawdd yn gyfandirol gyda gwahaniaeth mawr rhwng tymheredd yr haf a thymheredd y gaeaf.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y ddinas ym 1893 fel yr oedd y rheilffordd Draws-Siberaidd yn cael ei hadeiladu drwy'r ardal. Ar y cychwyn, enw'r dreflan oedd Aleksandrovsk er parch i Sant Alexander Nevsky, noddwr nefol Tsar Alexander III. Ar ôl ei farwolaeth ym 1895, fe'i hailenwyd yn Novo-nikolayevsk er parch i Sant Nikolay Chudotvorets noddwr nefol y tsar newydd Niclas II. Dyrchafwyd y dreflan i statws dinas ym 1903, ac ar drothwy Chwyldro Rwsia ym 1917 roedd ei phoblogaeth wedi tyfu i ryw 80,000 o drigolion. Yn sgil y chwyldro, roedd Novosibirsk yn bencadlys pwysig i'r lluoedd gwyn yn y Rhyfel Cartref o dan Llyngesydd Aleksandr Kolchak, ond cipiwyd y ddinas gan y Fyddin Goch ym 1919. Ym 1921, symudwyd gweinyddiaeth y rhanbarth o Omsk i Novosibirisk, ac o hyn ymlaen hon oedd prifddinas y rhanbarth. Ym 1925, derbyniodd ei enw presennol Novosibirsk (Dinas Newydd Siberia). O'r 1930au ymlaen, newidiodd cymeriad y ddinas: datblygodd fel canolfan ddiwydiannol, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd symudwyd llawer o ffatrïoedd o orllewin Rwsia er diogelwch. Ym 1957, adeiladwyd argae i greu cronfa ddŵr a gorsaf drydan hydroelectrig yn agos at y ddinas (Cronfa Ddŵr Novosibirsk a Gorsaf Drydan Hydroelectrig Novosibirsk). Dwyshaodd erydiad pridd ar ôl i fforestydd gael eu torri er mwyn clirio tir o gwmpas y gronfa, gan arwain at llifogydd amlach a phroblemau ecolegol eraill. Yr un flwyddyn adeiladwyd Akademgorodok ar lannau'r llyn yn ymyl Novosibirsk. Sefydlwyd pedair ar ddeg o athrofeydd ymchwil a phrifysgolion yno mewn cyfnod byr, a lleolwyd pencadlys newydd cangen Siberia Athrofa Wyddorau Rwsia yno. Erbyn dechrau'r 1960au roedd poblogaeth y ddinas wedi tyfu i un miliwn. Dechreuwyd adeiladu metro ym 1979, a'r llinell gynta'n agor ym 1985.