URL

Oddi ar Wicipedia

Mae'r llythrennau cyfarwydd URL yn sefyll am Uniform Resource Locator, neu Lleolydd Adnoddau Unffurf yn y Gymraeg. Gair ydyw am y cyfeiriad sy'n diffinio'r llwybr i ffeil neu wefan ar wasanaethydd Rhyngrwyd, e.e. gwasanaethydd gwe, gwasanaethydd FTP, gwasanaethydd e-bost a.y.y.b. Teipir URL ym mar cyfeiriad porwr gwe er mwyn cael mynediad at dudalennau gwe a ffeiliau ar y we. Yn ogystal mae'r URL ei hun wedi'i mewnosod yn y tudalennau eu hunain fel dolenni hyper-destun.

Mae'r URL yn cynnwys y rhagosodiad protocol (HTTP), enw'r parth (e.e. www.wikipedia.org) ac enw'r ffeil a gyrchir (gan gynnwys ei is-gyfeiriad os rhaid).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Donald Watts Davies (7 Mehefin, 1924 - 28 Mai, 2000): un o arloeswr y dull o drosglwyddo data bob yn swp neu bacedi (packet switching). Ganwyd yn Nhreorci.
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.