E-bost

Oddi ar Wicipedia

Ffordd o ysgrifennu ac anfon negeseuon yn electronaidd yw e-bost.

Mae e-bost wedi newid y ffordd mae pobl yn cyfarthrebu; dros gyfnod o ugain mlynedd mae'r nifer o bobl sy'n cyfathrebu trwy lythyron wedi lleihau ac mae mwy-a-mwy o bobl yn defnyddio e-bost i gyfarthrebu erbyn hyn.

Rhyngwyneb Thunderbird i drin a thrafod e-byst

Mae wedi'i seilio ar y Simple Mail Transfer Protocol sy'n galluogi'r cyfrifiaduron i gyfathrebu a'i gilydd dros rwydwaith neu system rhwydweithiol. Ceir system mewnol y 'mewnrwyd' neu'r intranet gan gwmniau, hefyd i yrru negeseuon e-bost o'r naill gyfrifiadur i'r llall, weithiau wedi'u creu / addasu gan y cwmni.

Y niwsans mwyaf ynghylch yr e-bost ydy ydy'r cam-ddefnydd a wneir gan rhai pobol drwy yrru e-byst nad oes mo'u gofyn na'u hangen. Sbam ydy'r gair am y rhain. Ar adegau fe ddefnyddir spam i dargedu cwmniau neu gyrff eraill er mwyn creu hafoc, neu er mwyn ceisio dymchwel eu system gyfrifiadurol. Gall spam hefyd gynnwys 'attachemnts' megis firws er mwyn creu mwy o niwsans. I rwystro hyn, ceir meddalwedd gwrth-firws a ffiltrau e-bost i atal neu roi'r spam mewn quarantine.

Ei darddiad[golygu | golygu cod]

Fe grewyd yr e-bost ychydig cyn y rhyngrwyd ac yn offeryn hanfodol i greu'r rhyngrwyd. Dangosodd y MITei Compatible Time-Sharing System (CTSS) yn 1961.[1]

Roedd hyn yn galluogi nifer o ddefnyddwyr ar yr un pryd i fewngofnodi ar yr un pryd i system wedi'i osod ar gyfrifiaduron IBM7094[2] o gyfrifiaduron annibynnol a chadw (safio) ffeiliau ar ddisg.

Dechreuodd yr e-bost yn 1965 fel dull i ddefnyddwyr ranu cyfrifiadur mainframe ond mae hi'n amhosibl roi dyddiad ar y defnydd cyntaf ohono. Enwau rhai o'r cwmniau a greodd systemau cynharaf o e-byst oedd: y Q32 gan System Development Corporation a CTSS gan gwmni MIT. Yn y 1970au cynnar, datblygodd Ray Tomlinson feddalwedd e-bost ar rwydwaith yr ARPAnet, rhag-flaenydd y Rhyngrwyd, tra'n gweithio gyda cwmni technoleg rhwydweithio Bolt, Beranek and Newman. Er mwyn gwahanu enw'r defnyddiwr ac enw'r cyfrifiadur, defnyddiodd y symbol @, sy'n parhau o hyd ar system ebost y Rhyngrwyd.

Fformat[golygu | golygu cod]

Diffinnir fformat e-byst yn yr RFC 2822 ac mewn cyfres o RFCs, RFC 2045 hyd at RFC 2049; sef casgliad a elwir yn Multipurpose Internet Mail Extensions (MIME).

Ers 2005 mae'r safon RFC 2822 yn safon IETF a'r MIME RFC yn safonau drafft o'r enw IETF [3]. Y dogfennau hyn yw dogfennau safoni de facto e-bost y rhyngrwyd.

Mae gan pob e-bost ddwy ran:

  • Y Pen - gyda rhanau megis: summary, sender, receiver, a gwybodaeth arall ynghylch yr e-bost ei hun
  • Y Corff - sef y neges ar ffurf testun a all hefyd gynnwys llofnod ar ei ddiwedd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "CTSS, Compatible Time-Sharing System" (September 4, 2006), University of South Alabama, web: USA-CTSS.
  2. Tom Van Vleck, "The IBM 7094 and CTSS" (September 10, 2004), Multicians.org (Multics), web: Multicians-7094.
  3. "RFC Index". http://www.ietf.org/iesg/1rfc_index.txt.