Wikipedia

Oddi ar Wicipedia
Wicipedia
Sffêr gwyn a grëwyd gyda darnau herclif. Dangosir llythrennau o lawer o wyddorau.
Logo Wicipedia - glôb sy'n cynnwys glyffiau o wahanol systemau ysgrifennu
URL wikipedia.org
Slogan Y gwyddoniadur rhydd y gall unrhyw un ei olygu.
Masnachol? Na
Math o wefan Dielw
Cofrestru Dewisol (angen er mwyn diogelu tudalennau a gweithrediadau gweinyddol ayyb)
Ieithoedd ar gael 269 iaith weithredol (281 ar y cyfan)
Perchennog Wikimedia Foundation (dielw)
Crëwyd gan Jimmy Wales, Larry Sanger[1]
Lansiwyd ar 14 Gorffennaf 2003 (fersiwn Cymraeg); 15 Ionawr 2001 (fersiwn Saesneg)
Statws cyfredol Gweithredol
Gofal: ceir erthygl arall, gydag enw tebyg, sef Wicipedia.

Gwyddoniadur rhyngwladol, amlieithog a reolir gan y Wikimedia Foundation yw Wicipedia (Saesneg: Wikipedia). Dechreuodd y fersiwn Saesneg ar 15 Ionawr 2001, ac yn ystod y pum mlynedd ddilynol, dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 iaith arall. Ar ddiwedd 2001, roedd dros 20,000 erthygl yn y fersiwn Saesneg a 18 o wahanol ieithoedd. Erbyn Mehefin 2010, roedd 3.3 miliwn erthygl.

Lansiwyd y Wicipedia Cymraeg ar 14 Gorffennaf 2003. Roedd dros 21,600 erthygl yn y Wicipedia Cymraeg ym Mai 2009 ac roedd yn 60ain o ran safle ieithyddol â 5,500 o ddefnyddwyr cofrestredig. Erbyn Rhagfyr 2010 roedd nifer yr erthyglau wedi codi i dros 30,000 a'i safle ar y rhestr yn 66ed. Ar hyn o bryd, ceir 280,414 erthygl ar y fersiwn Cymraeg, sef y 64ydd iaith allan o 280 iaith. Yn 2012 roedd y nifer o dudalennau a oedd yn cael eu hagor ar y Wicipedia Cymraeg (ar gyfartaledd y diwrnod) yn: 62,161.[2]

Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg.

Nodweddion pwysig[golygu | golygu cod]

Mae gan brosiect Wicipedia dair nodwedd bwysig, sy'n diffinio'i le ar y we fyd-eang:

  1. Mae'n anelu at fod yn wyddoniadur.
  2. Mae'n wici, sy'n golygu y caiff unrhyw un ei olygu (gyda rhai cyfyngiadau).
  3. Mae'n brosiect cynnwys agored, sy'n defnyddio'r Drwydded Dogfen Rydd GNU copyleft.

Fandaliaeth[golygu | golygu cod]

Mae "fandaliaeth" yn fater pwysig ar Wicipedia: fandaliaeth ydy gosod dwli, nonsens, neu unrhyw wybodaeth anghywir (yn fwriadol) mewn erthyglau. Mae erthyglau sydd wedi cael eu fandaleiddio yn cael eu gwrthdroi ac mae'n bosibl gwahardd y fandal.

Polisïau[golygu | golygu cod]

Mae cyfranogwyr Wicipedia yn dilyn ychydig o bolisïau sylfaenol.

  • Yn gyntaf, gan fod amrywiaeth enfawr o gyfranwyr o bob athroniaeth, ac ar draws y byd, mae Wicipedia yn benderfynol o wneud pob erthygl mor ddiragfarn â phosibl. Yr amcan yw cyflwyno pob barn yn deg ar unrhyw destun.
  • Yn ail, mae nifer o gonfensiynau wrth enwi erthyglau; er enghraifft, pan fo sawl enw yn bodoli, defnyddier yr un mwyaf cyffredin.
  • Yn drydydd, dylai Wicipedwyr ddefnyddio tudalennau "sgwrs" i drafod newidiadau i'r testun, yn hytrach na thrafod y newidiadau ar y tudalennau eu hunain. Mae achosion sydd yn berthnasol i nifer o erthyglau yn gallu cael eu trafod yn Meta-Wikipedia neu'r rhestrau post.
  • Yn bedwerydd, ceir rhai erthyglau digalon gan nad ydyn nhw'n ddim o'r math a welir mewn gwyddoniadur traddodiadol. Er enghraifft, nid geiriadur ydy Wicipedia ac mae rhoi ffynhonnell y wybodaeth yn hanfodol.
  • Yn bumed, mae'r gefnogaeth i nifer o reolau sydd wedi cael eu cynnig yn amrywio yng nghymuned Wicipedia. Y rheol a gefnogir yn bennaf yw: "Os yw rheolau yn gwneud i chi deimlo'n ofnus ac yn ddigalon ac yn gwneud i chi beidio cyfrannu i'r wici, anwybyddwch nhw yn gyfan gwbl a gwnewch eich busnes eich hun." Pan mae'r rheolau a gynigir yn cael eu torri, penderfynir ar y canlyniad fesul achos rhwng y Wicipedwyr.

Personél[golygu | golygu cod]

Mae Wicipedia wedi cael ei newid gan filoedd o bobl. Mae Wicipedia yn galw pobl sydd yn ei newid yn Wicipedwyr. Mae cyfanswm y newidiadau yn y fersiwn Saesneg wedi dyblu rhwng Ionawr 2002 ac Ionawr 2003, o 1000 y dydd i 2000 y dydd.

Does dim prif newidiwr, fel y mae. Y ddau berson a sefydlodd Wicipedia yw Jimmy Wales (Prif Swyddog Gweithredol y cwmni bach rhyngrwyd Bomis Inc) a Larry Sanger. Yn y 13 mis cyntaf talwyd Sanger gan Bomis i weithio ar Wicipedia. Dywedwyd bod Sanger wedi cymryd rôl canolwr, yn gwneud penderfyniadau mewn amser o ddadlau poeth. Nid oedd hyn yn seiliedig ar awdurdod ffurfiol, ond gofynion y defnyddwyr. Daeth yr arian ar gyfer ei safle i ben, yn dilyn ei ymddeoliad yn Chwefror 2002. Mae gweithwyr Bomis, sydd wedi gweithio ar y gwyddoniadur, yn cynnwys Tim Shell, un o gyd-sefydlwyr Bomis, a hefyd Jason Richey a Toan Vo.

Dywedodd Richard Stallman, yr ymgyrchydd dros feddalwedd di-dâl, fod sefydliad Wicipedia yn "newyddion cyffrous".

Meddalwedd a chaledwedd[golygu | golygu cod]

UseModWiki, a ysgrifennwyd gan Clifford Adams ("Cyfnod I"), oedd y fersiwn o feddalwedd wici a ddefnyddid i gynnal Wicipedia yn wreiddiol. I gychwyn, roedd rhaid defnyddio CamelCase ar gyfer dolenni, ond yn fuan roedd yn bosibl defnyddio'r dull cromfachau dwbl presennol. Yn Ionawr 2002, fe gychwynnodd Wicipedia ddefnyddio meddalwedd wici PHP a ysgrifennwyd ar gyfer Wicipedia gan Magnus Manke, gyda chronfa ddata MySQL, ac ychwanegwyd sawl rhinwedd newydd ("Cyfnod II"). Ar ôl ychydig, arafodd y safle nes bod golygu bron yn amhosibl; fe newidiwyd y feddalwedd sawl tro ond dim ond am ychydig y lleddfodd hynny'r broblem. Yna, ysgrifennodd Lee Daniel Crocker y feddalwedd o'r newydd, ac mae'r fersiwn newydd, sy'n llawer gwell, wedi bod yn rhedeg ers Gorffennaf 2002. Gelwid y meddalwedd "Cyfnod III" hwn yn MediaWiki. Ers hynny, mae Brion Vibber wedi ymgymryd â thrwsio gwallau.

Yn Rhagfyr 2009 roedd 300 gweinydd (Saesneg: server) yn Fflorida a 44 yn Amsterdam yn cynnal holl wybodaeth Wikipedia.[3] Tan 2004 un gweinydd oedd yn dal yr holl wybodaeth.

Cynhelir y prosiect ar weinydd neilltuol, a leolwyd yn San Diego. Mae'r gweinydd hwn yn gyfrifol am Wicipedia ymhob iaith. CPU Athlon deublyg 1700+ ydyw, gyda 2 GB o RAM, ac yn rhedeg Red Hat Linux â'r gweinydd gwe Apache.

Rhyngwyneb newydd Wicipedia; lansiad: Gorffennaf 2013.

Yng Ngorffennaf 2013 bydd rhyngwyneb Wicipedia yn newid (pob iaith), gan symlhau'r weithred o olygu. Bydd y "Golygydd Gweladwy" (Visual Editor) yn caniatau golygu ar y sgrin, yn ogystal â thrwy'r ffenestr olygu a wici-gôd arferol.[4] Dywedir mai hwn fydd y datblygiad mwyaf, yn weladwy, o fewn Wicipedia ers ei chreu. Ni fydd yn gweithio ar y tudalennau Sgwrs, fodd bynnag.

Prosiectau cysylltiedig[golygu | golygu cod]

Mae gan Wicipedia brosiectau cysylltiedig:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jonathan Sidener. Everyone's Encyclopedia , The San Diego Union-Tribune. Cyrchwyd ar 15 Hydref 2006.
  2. (Saesneg) Most accessed pages [hits per day:]. Falsikon. Adalwyd ar 30 Ebrill 2012.
  3. http://wikitech.wikimedia.org/view/Server_roles Server roles at wikitech.wikimedia.org. Adalwyd ar 08-12-2009
  4. VisualEditor/Parsoid Quarterly Review 2012/13 Q3 slides, Mawrth 2013 (PDF)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]