Defnyddiwr:Paul Bevan

Oddi ar Wicipedia


Llyfrgell Genedlaethol Cymru - The National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru & Wicipedia[golygu | golygu cod]

Yn ystod mis Awst 2008, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Gwefan) yn cynnal rhaglen beilot er mwyn rhannu ei chasgliadau trwy gydweithrediad ar-lein ar Wikipedia a Wicipedia.

Prif nod y gwaith hwn fydd ychwanegu delweddau o Gasgliad John Thomas at dudalennau perthnasol ar y safle, er mwyn cyfoethogi erthyglau sydd eisoes yn bodoli ar y wici.

Byddwn yn monitro effaith ein gwaith yn ystod y cyfnod hwn, felly bydd croeso i chi adael sylwadau ar ein 'Tudalen Sgwrs'. Bydd y peilot hwn yn ein cynorthwyo wrth ystyried natur unrhyw waith a ymgymerir ag ef gan LlGC, ar y cyd â Wikipedia a safleoedd allanol eraill yn y dyfodol, ac i ba raddau y gwneir gwaith felly.

Ynglŷn â Llyfrgell Genedlaethol Cymru[golygu | golygu cod]

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru. Mae’n gweithredu fel cof y genedl, drwy storio a darparu mynediad i wybodaeth a gofnodwyd, ar bob ffurf, am Gymru. Y Llyfrgell hefyd yw’r storfa fwyaf yng Nghymru o wybodaeth ar bob pwnc. Gan ei bod yn llyfrgell adnau cyfreithiol mae’n derbyn copïau o’r rhan fwyaf o lyfrau a defnyddiau printiedig eraill a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig ac yn Iwerddon.

Gallwch ddarllen mwy am Lyfrgell Genedlaethol Cymru naill ai ar dudalen berthnasol Dudalen Wici neu ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru

The National Library of Wales & Wikipedia[golygu | golygu cod]

During August 2008 The National Library of Wales (Website) will be running a pilot programme for sharing its collections through online collaboration on Wikipedia and Wicipedia.

The primary focus of this work will be the adding of images from the John Thomas Collection to relevant pages of the site in order to enhance articles already existing on the wiki.

During this time we will be monitoring the impact of our work and we welcome any comments you might have on our Talk Page. This pilot will help to guide the nature and extent of future activity undertaken by NLW in conjunction with Wikipedia and other external sites.

About The National Library of Wales[golygu | golygu cod]

The National Library of Wales is one of Wales’s chief cultural institutions. It acts as the memory of the nation, storing and giving access to recorded knowledge, in all forms, about Wales. The Library is also the largest storehouse in Wales of information and knowledge on all subjects. As a legal deposit library it receives copies of most books and other printed material published in the United Kingdom and Ireland.

You can read more about The National Library of Wales either on the relevant Wiki Page or on the National Library of Wales Website


Nodyn ar hawliadau[golygu | golygu cod]

Yn ystod cyfnod peilot y Llyfrgell, byddwn yn rhannu delweddau unigryw o’u casgliadau gyda Wikipedia a Wicipedia. Rydym wedi trulio tipyn o amser yn adolygu’r hawliau ers penderfynu cychwyn ar y prosiect yma ac rwy’n meddwl byddai’n ddefnyddiol rhannu’r prif bwyntiau.

Byddwn yn uwchlwytho delweddau o dan yr opsiwn “The copyright holder gave me permission to use this work only in Wicipedia articles”. Rydym yn sylweddoli y bydd hyn yn arwain i’r ddelwedd gael ei dargedu i’w “ddileu’n fuan”, fodd bynnag, byddwn yn apelio yn erbyn hyn drwy ychwanegu’r tag {{hangon}} i dudalen y ddelwedd a gadael neges debyg i’r hyn welir isod ar y dudalen sgwrs berthnasol:

Mae’r ddelwedd yma wedi’i ryddhau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o gynllun peilot i rannu delweddau wedi’u digido gydag erthyglau Wikipedia a Wicipedia. Edrychwch ar User:Paul Bevan am ragor o wybodaeth. Bwriedir i’r ddelwedd yma gael ei ychwanegu i dudalen Gwilym Marles. Credwn nad oes yna drwydded agored na delwedd rydd gyfwerth a all gyflawni’r pwrpas yma.

Gobeithiwn bydd y dull yma’n galluogi ni i ddechrau’r broses o rannu’n delweddau gyda chymuned ehangach heb dorri ein cyfrifoldebau fel sefydliad.

Byddwn yn ychwanegu delweddau i erthyglau sy’n elwa’n sylweddol o’u hychwanegu. Credwn mai hyn yw’r ffordd doethaf o ddefnyddio delweddau sydd ddim yn rhydd a heb fersiwn rhydd i gydymffurfio gyda’r 10 maen prawf yn y Non-free Content Policy.

Ni fyddwn yn creu erthyglau ond yn annog pobl i awgrymu erthyglau byddai efallai’n elwa o ddelwedd o gasgliad John Thomas. Gallwch chwilio’r casgliad drwy fynd i’r catalog adnoddau , dewis Allweddair ac yna dewis “Casgliad John Thomas” o’r ddewislen gwympo.