Cymdeithas Wici Cymru

Oddi ar Wicipedia
Logo'r Wicipedia Cymraeg
Mae dogfennau'r gymdeithas i'w cael yn y fan hon.

Mae Cymdeithas Wici Cymru (neu Gymdeithas Llwybrau Byw) yn gymdeithas a ffurfiwyd yn hydref 2012 i gefnogi a hyrwyddo Wicipedia (a'i chwiorydd) yng Nghymru.

Tarddodd yr enw gwreiddiol Llwybrau Byw o wobr a enillodd grwp o Wicipedwyr yng nghystadleuaeth Geovation yn haf 2012 a oedd wedi'i drefnu gan yr Ordnance Survey a Chymdeithas Llwybr yr Arfordir[1]. Y syniad oedd fod Wicipedia'n tyfu'n ddyddiol, yn fyw ac yn datblygu ei llwybrau ei hun.

Mae Cyfansoddiad y gymdeithas yn nodi ei hamcanion:

  1. Hybu, hyrwyddo a chefnogi’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru
  2. Hyrwyddo'r cysyniad o ledaenu holl wybodaeth y byd i bawb, am ddim drwy hyrwyddo'r defnydd o 'gynnwys agored' neu ‘gynnwys rhydd’
  3. Rhyddhau gwybodaeth addysgol (testun, delweddau, fideo ayb) ar drwydded CC-BY-SA neu ei debyg
  4. Ffurfio perthynas ag unigolion, sefydliadau a chymdeithasau cyffelyb yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill
  5. Addysgu a meithrin golygyddion newydd a chynnig hyfforddiant sut i hyfforddi eraill (cynllun 'Hyfforddi'r Hyfforddwyr')

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Geovation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-24. Cyrchwyd 2012-11-12.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]