Neidio i'r cynnwys

Llwybr Arfordir Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Llwybr yr Arfordir)
Llwybr Arfordir Cymru
Mathatyniad twristaidd, llwybr arfordirol, llwybr troed pell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.39°N 4°W Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl hon am arfordir Cymru; ceir hefyd Moroedd Cymru, sy'n ymestyn o'r arfordir.

Llwybr troed hir sy'n dilyn holl arfordir Cymru yw Llwybr Arfordir Cymru (Saesneg: Wales Coast Path), sy'n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd-ddwyrain i Gas-gwent yn y de-ddwyrain.[1]

Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012. Roedd yn cynnwys darnau newydd o lwybrau arfordirol ynghyd â rhai hŷn. Agorwyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn y de-orllewin yn 1970, Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Llŷn yn 2006, a Llwybr Arfordir Ceredigion yn 2008.

Mae'n rhedeg trwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.[2]

Mae'r llwybr mor agos i’r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[3]

Llwybrau rhanbarthol

[golygu | golygu cod]

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi'i rannu'n wyth adran:[4]

  1. Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy (81 milltir / 132 km)
  2. Ynys Môn (135 milltir / 217 km)
  3. Llŷn ac Eryri (167 milltir / 264 km)
  4. Ceredigion (75 milltir / 119 km)
  5. Sir Benfro (182 milltir / 291 km)
  6. Sir Gaerfyrddin (68 milltir / 108 km)
  7. Gŵyr a Bae Abertawe (69 milltir / 111 km)
  8. Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren (97 milltir / 157 km)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ynglŷn â'r llwybr", Llwybr Arfordir Cymru; adalwyd 6 Ebrill 2025
  2. bbc.co.uk - Wales Coast Path officially opens with events in Cardiff, Aberystwyth and Flint Adalwyd 10 Gorffennaf 2012.
  3. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; Archifwyd 2012-07-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 04 Mehefin 2013.
  4. Sylwer nad yw enwau'r adrannau hyn bob amser wedi bod yn gwbl gyson. "Ynglŷn â'r llwybr", Llwybr Arfordir Cymru; adalwyd 8 Ebrill 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]