Chwedl Gelert

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gelert)
Jump to navigation Jump to search
Gelert a'r Baban. Darlun gan John D. Batten i Celtic Fairy Tales Joseph Jacob (1892).
Llun a wnaed yn nheyrnasiad Richard lll, Brenin Lloegr i gynrychioli Cymru: crud aur baban gyda milgi ynddo. Credir gan rai fod stori Gelert (neu fersiwn debyg ohoni) yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol
Y llun cyfan.
Bedd Gelert

Stori boblogaidd o darddiad ansicr yw chwedl Gelert, sydd wedi'i lleoli ym mhentref Beddgelert, Gwynedd.

Bedd Gelert, 1850

Y chwedl gyfarwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r chwedl gyfarwydd yn sôn am 'Lywelyn' - sef Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru - yn mynd i hela heb ei gi ffyddlon Gelert, gan ei adael i edrych ar ôl ei fab bychan. Pan ddaw'r tywysog yn ei ôl o'r hela, mae'n darganfod ei gi a gwaed dros ei ffroenau, a dim golwg yn unlle am ei fab. Gydag un rawiad o'i gleddyf, mae'n lladd ei gi. Yna, yn rhy hwyr clywai sŵn crio - roedd Gelert wedi cuddio'r tywysog bach o dan y crud, rhag y blaidd mawr, cas. Roedd Gelert wedi llarpio hwnnw, wedi amddiffyn y tywysog ac wedi ei gosbi'n ddrud am ei ddewrder.[1]

Credir i'r chwedl hon gael ei llunio gan dafarnwr lleol i ddenu twristiaid (gweler isod).

Tarddiad y chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwedlau canoloesol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Gwyddoniadur Cymru, ceir fersiwn o'r stori sy'n dyddio nôl i ddiwedd y 15g, neu cyn hynny, ac yn sôn am Cilhart, ci Llywelyn ap Gruffudd, a fu farw o flinder ar ôl erlid carw, a'i gladdu ym Meddgelert.[2] Dadleir fod y stori hon yn hysbys yn y canoloesoedd, fel y gwelir ar y llun ar y dde, sef symbol o Gymru - crud aur a milgi arian - un o chwe symbol o lun a wnaed yn oes Rhisiart III, brenin Lloegr.

Ond nid oes cofnod o'r chwedl hon yn llenyddiaeth a thraddodiadau Cymru (gweler isod). Fodd bynnag, mae fersiwn o'r chwedl hon ar gael bron yr un ffunud - ond heb sôn am Lywelyn na Gelert na Chymru - mewn casgliad o chwedlau canoloesol poblogaidd o'r enw Historia Septem Saptientum a gyfieithwyd o'r Lladin i Gymraeg Canol yn y 15g wrth y teitl Chwedlau Saith Doethion Rhufain (ceir cyfieithiadau mewn nifer o ieithoedd eraill hefyd). Ceir fersiynau ysgrifenedig a llafar o'r chwedl o mor bell i ffwrdd ag India, ac mae'n bosibl ei bod yn tarddu o'r is-cyfandir. Byddai'r Saeson yn gwybod amdani hefyd, achos roedd y casgliad o chwedlau yn hynod o boblogaidd yn y cyfnod. Yn y cyfieithiad Cymraeg Canol, sy'n dilyn manylion y testun Lladin, lleolir y chwedl yn Rhufain, nid Cymru.[3]

Stori tafarnwr Yr Afr[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma'r fersiwn boblogaidd o'r chwedl. Dyfeisiwyd y stori hon, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol o'r enw Dafydd Prisiart (David Prichard), ar ddiwedd y 18g neu ddechrau'r 19eg, er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Yn ôl D. E. Jenkins yn ei gyfrol Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folk-lore (1899), daeth Dafydd Prisiart i'r plwyf tua 1793 a bu farw yn Chwefror 1821. Roedd yn frodor o'r De. Cynigir ei fod yn gyfarwydd â fersiwn o'r chwedl ryngwladol (gweler uchod) a'i fod wedi ei haddasu trwy ei lleoli ym Meddgelert.[4] Cododd David Prichard, tafarnwr Yr Afr a dyfeisiwr y chwedl gyfarwydd, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.[2]

Diffyg traddodiadau Cymreig cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Casglodd John Jones (Myrddin Fardd) nifer fawr o chwedlau a thraddodiadau am ogledd-orllewin Cymru yn ei gyfrol adnabyddus Llên Gwerin Sir Gaernarfon. Mae'n sôn am chwedl gyfarwydd y tafarnwr ac yn esbonio ei fod yn ffuglen. Dywed hefyd fod dim sôn am chwedl Gelert yn llyfrau'r hynafiaethwyr cynnar fel William Camden (1551–1623) a John Leland (tua 1506-1552) a dydi Thomas Pennant ddim yn cyfeirio ato yn ei lyfr enwog Tours in Wales (1778), sy'n cynnwys pennod am Feddgelert.[1] Yn ogystal, does dim sôn gan y beirdd - a cheir sawl cerdd sy'n cyfeirio at Feddgelert - na dim awgrym o'r chwedl mewn unrhyw ffynhonnell Gymraeg hynafol arall chwaith.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Myrddin Fardd, Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908), tt. 198-99.
  2. 2.0 2.1 Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 370.
  3. Henry Lewis (gol.), Chwedleu Seith Doethon Rufein (Wrecsam, 1925), rhagymadrodd.
  4. Henry Lewis (gol.), Chwedleu Seith Doethon Rufein (Wrecsam, 1925), rhagymadrodd, tt. 27-28.