Llanychan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanychan
Eglwys Sant Hychan
St Hychan's Church, Eglwys Llanychan, Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru, Wales 09.jpg
Eglwys Sant Hychan o'r fynedfa
Lleoliad Ger Rhuthun, Sir Ddinbych
Gwlad Cymru
Cristnogaeth Yr Eglwys yng Nghymru
Hanes
Cysegrwyd i Sant Hychan
Pensaerniaeth
Statws gweithredol Ar ddefnydd
Dynodiad (etifeddiaeth) Gradd II*
Dynodiad 19 Gorffennaf 1966
Pensaerniaeth Eglwys (adeilad)
Torri tywarchen 12g
Manylion
Cynulleidfa c. 80
Defnydd Carreg gyda tho llechan

Eglwys a phentreflan yw Llanychan("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Eglwys Hychan Sant), a saif rhwng Rhewl a Gellifor, Rhuthun (Cyfeirnod OS: SJ 114621). Ceir rheithordy o frics coch o'i blaen, ac felly anodd yw gweld yr eglwys o'r ffordd fawr, a llond llaw o dai anedd eraill. Enwyd yr eglwys hynafol hon ar ôl Sant Hychan a fu'n byw ar y safle yn 450 OC, ac mae'r cofnod cyntaf o'r eglwys bresennol yn mynd yn ôl i 1254. Roedd yma ysgol hyd at ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Cofrestrwyd yr eglwys yn Gradd II* ar 19 Gorffennaf 1966 gan Cadw; rhif cofrestru: 787. Mae distiau pren yn y to yn dyddio o'r 16C.

Plas Coch, Llanychan.

Mae'n blwyf o 567 erw - plwyf lleiaf Esgobaeth Llanelwy. Mae'r pentref oddeutu tair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ruthun.

Dim ond dwy eglwys yng Nghymru sydd wedi eu henwi ar ôl Sant Hychan, a dyma un ohonynt. Sonir am yr eglwys hon gyntaf yng Nghofnodion Treth Norwich yn 1254.[1] Mae ei llan gylchog uchel yn nodedig iawn ac yn brawf y bu yma unwaith Eglwys Geltaidd, gynharach. Mae Eglwys Sant Hychan yn debyg iawn o ran arddull i Eglwys Sant Cynhafal, ond ei bod yn llawer llai ac nid oes iddi ddau gorff, nodwedd bensaernïol gyffredin iawn yn Nyffryn Clwyd.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]