Neidio i'r cynnwys

Canu Taliesin (cyfrol)

Oddi ar Wicipedia
Canu Taliesin
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurIfor Williams
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1960
Argaeleddmewn print
GenreAstudiaeth lenyddol

Golygiad o'r cerddi Hen Gymraeg a adnabyddir fel Canu Taliesin gan Syr Ifor Williams yw Canu Taliesin, a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1960. Cafwyd argraffiadau newydd ers hynny.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Roedd hon yn gyfrol arloesol pan ddaeth allan yn 1960. Am y tro cyntaf erioed cafwyd golygiad ysgolheigaidd beirniadol o'r 12 cerdd a dderbynnir yn gyffredinol erbyn hyn fel gwaith dilys y bardd Taliesin (bl. 6g). Ceir rhagymadrodd hir, y testun golygiedig yn yr orgraff wreiddol, nodiadau a mynegai.

Cyfieithiad Saesneg

[golygu | golygu cod]

Addaswyd y gyfrol i'r Saesneg gan J.E. Caerwyn Williams dan yr enw The Poems of Taliesin', a gyhoeddwyd gan Sefydliad Dulyn yn 1987. Yn 2014 roedd y gyfrol mewn print.[1] ISBN 9780000673251

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 28 Mehefin 2013