Siân James (cantores)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Siân James
Sianjames anoriant.jpg
Siân James ar y llwyfan
Gwybodaeth gefndirol
Ganwyd 24ain Rhagfyr 1961
Man geni Baner Cymru Llanerfyl
Cerddoriaeth Gwerin
Offeryn(au) cerdd Telyn, Piano, Ffidil
Blynyddoedd 1990-
Label(i) recordio Sain
BBC Worldwide
Recordiau Bos
Cysylltiedig Bwchadanas
Gwefan sianjames.co.uk

Cantores a cherddor o Gymru ydy Siân James (ganwyd 24ain Rhagfyr 1961) yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn).

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymerodd ran mewn Eisteddfodau o oedran cynnar, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach, y telyn.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.[1]

Bu'n aelod o'r grŵp Bwchadanas cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol.[2] Rhyddhaodd bedwar albym ar label Sain cyn cael ei chomisiynu gan BBC 2 i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres Birdman a oedd yn dilyn gwaith swyddog RSPB, Iolo Williams. Roedd y BBC mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Bos, ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn Llanerfyl.

Sian James a Gwyn Jones yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.

Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd Tich Gwilym.

Bu James hefyd yn actio yn ffilm S4C, Tylluan Wen, ac mewn chyfresi megis Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef Siân, darlledwyd pump rhaglen.[2] Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis The Saw Doctors a Capercaillie.[1]

Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn Sir Drefaldwyn.[1]

Hunangofiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd hunangofiant Siân yn 2011 yn y gyfres Cyfres y Cewri, gan Wasg Gwynedd.

Disgograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr yr Albwm Di-Gwsg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Proffil ar wefan BBC Cymru
  2. 2.0 2.1 Bywgraffiad ar wefan Sain