Y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd)
Jump to navigation
Jump to search
Rhyfel imperialaidd rhwng Sbaen ac Unol Daleithiau America ym 1898 oedd y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd. Ym 1896 penodwyd y Cadfridog Valeriano Weyler i lywodraethu ynys Ciwba, gwladfa a fu'n gwrthryfela yn erbyn Ymerodraeth Sbaen ers y 1860au. Dechreuodd y frwydr ddiweddaraf dros annibyniaeth ym 1895, ac ymatebodd Weyler drwy sefydlu gwersylloedd crynhoi i garcharu gwrthryfelwyr a'r rhai oedd yn eu cefnogi. Anogwyd ymyrraeth yng Nghiwba gan ddiddordebau busnes Americanaidd a oedd yn buddsoddi yn niwydiant siwgr yr ynys. Taniwyd y rhyfel gan suddo'r USS Maine, llong o Lynges yr Unol Daleithiau, yn Harbwr La Habana ar 15 Chwefror 1898.
