Gwersyll crynhoi

Oddi ar Wicipedia
Carcharorion yn Buchenwald, Ebrill 1945

Gwersyll crynhoi yw'r term a ddefnyddir am wersyll lle cedwir pobl yn garcharorion, fel rheol dan warchodaeth filwrol, heb eu bod wedi ei cael yn euog o drosedd gan lys barn. Fel rheol, fe'i defnyddir gan lywodraethau i garcharu gwrthwynebwyr gwleidyddol neu grwpiau y mae'r llywodraeth yn ei hystyried yn fygythiad, ar sail ethnig, grefyddol neu arall. Mae'n wahanol i wersyll difa, lle deuir a charcharorion yno yn unig i'w lladd.

Defnyddiwyd gwersylloedd crynhoi gan lywodraeth Sbaen yn ystod Gwrthryfel Ciwba yn 1898, gan lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod y rhyfel yn y Ffilipinau yn 1898-1901, a chan lywodraeth y Deyrnas Unedig yn erbyn y Boeriaid yn ystod Rhyfel De Affrica 1899-1902. Y bwriad oedd gwneud rhyfel gerila yn amhosibl trwy garcharu'r boblogaeth sifil oedd yn cefnogi'r ymladdwyr.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiodd llywodraeth Natsïaidd yr Almaen wersylloedd crynhoi ar raddfa fawr. Y cyntaf i'w sefydlu ganddynt oedd Dachau yn 1933. Roedd y mwyaf adnabyddus o wersylloedd y Natsiaid, Auschwitz, yn wersyll crynhoi (Auschwitz I) ac yn wersyll difa (Auschwitz II). Gwersylloedd crynhoi adnabyddus eraill oedd Bergen-Belsen, Buchenwald, Flossenbürg, Mauthausen a Ravensbrück.

Yn yr Undeb Sofietaidd, carcherid gwrthwynebwyr gwleidyddol mewn gwersylloedd Gulag.