Ciwbawyr
Gwedd
| Enghraifft o: | poblogaeth |
|---|---|
| Math | Caribbean people, preswylydd, Americans, Latin Americans, cenedl, islanders |
| Rhanbarth | Ciwba |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02p444n |
| Quora | Cuban-ethnicity-and-people |
Cenedl amlhiliol yw'r Ciwbawyr neu'r Ciwbaniaid sy'n byw ar ynys Ciwba, cenedl-wladwriaeth ym Môr y Caribî, neu'n hanu o'r wlad honno.
Mae 65.1% o Giwbawyr yn wyn, 24.8% yn fylato neu'n mestizo, a 10.1% yn Giwbawyr Affricanaidd.[1] Mae'r mwyafrif o Giwbawyr yn Babyddion.
Mae'r Ciwbawyr yn siarad Sbaeneg. Mae pêl fas a phaffio amatur yn chwaraeon poblogaidd. Mae cerddoriaeth Giwbaidd wedi bod yn ddylanwadol yn genres cerddorol y Caribî, gan gynnwys Rumba, salsa, merengue, a Reggaeton.
Ers Chwyldro Ciwba (1953–9), mae nifer o Giwbawyr alltud wedi ymsefydlu mewn mannau eraill o'r byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Cuba: People and Society. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 4 Mawrth 2013.