Pab Ioan Pawl II

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pab John Paul II)
Jump to navigation Jump to search
Pab Ioan Pawl II
Luxembourg-5151 - Pope John Paul II (12727135684).jpg
Ganwyd 18 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Wadowice Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata (84 oed)
Palas y Fatican Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gwlad Pwyl, Y Fatican, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Addysg Doethur mewn Diwinyddiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Gatholig Lublin Edit this on Wikidata
Galwedigaeth athro prifysgol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Jagielloński Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 22 Hydref Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Siarlymaen, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, dinesydd anrhydeddus Nieszawa Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of John Paul II.svg

Pab o 16 Hydref 1978 hyd ei farw yn 2005 oedd Pab Ioan Pawl II (ganwyd Karol Józef Wojtyła) (18 Mai 19202 Ebrill 2005). Yn enedigol o Wlad Pwyl, ef oedd y pab cyntaf o'r tu allan i'r Eidal ers dros 450 o flynyddoedd.

Yn ddyn ifanc, fe ddioddefodd yn arw iawn o dan y Natsïaid, gan gael ei ddanfon i dorri cerrig mewn chwarel lle roedd y tymheredd yn aml yn 30 gradd selsiws o dan y rhewbwynt. Wedi iddo ddod yn offeiriad, byddai'n gwrthdaro'n aml ag awdurdodau Comiwynddol Gwlad Pwyl. Yn geidwadwr traddodiadol o ran ei grefydd, byddai'n manteisio ar bob math o gyfryngau modern i ledaenu ei neges.

Ar 27 Ebrill 2014 gwnaed Ioan Pawl II, ynghyd â Phab Ioan XXIII, yn sant gan Bab Ffransis.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Vatican declares Popes John Paul II and John XXIII saints. BBC (27 Ebrill 2014). Adalwyd ar 27 Ebrill 2014.
Rhagflaenydd:
Pab Ioan Pawl I
Pab
16 Hydref 19782 Ebrill 2005
Olynydd:
Pab Bened XVI