Antilles yr Iseldiroedd
Gwedd
| Math | gwlad Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, gwlad ar un adeg |
|---|---|
| Prifddinas | Willemstad |
| Poblogaeth | 197,041 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Wilhelmus van Nassouwe |
| Cylchfa amser | UTC−04:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Papiamenteg, Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ymerodraeth yr Iseldiroedd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 800 km² |
| Yn ffinio gyda | Ffrainc |
| Cyfesurynnau | 15°N 66°W |
![]() | |
| Arian | Netherlands Antillean guilder |
Rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd ym Môr y Caribî oedd Antilles yr Iseldiroedd. Cynhwysodd y diriogaeth ddau grŵp o ynysoedd: Arwba, Curaçao a Bonaire oddi ar arfordir Feneswela a Sint Eustatius, Saba a Sint Maarten (hanner deheuol ynys Sant Martin) tua 800 km i'r gogledd-ddwyrain. Willemstad, ar ynys Curaçao, oedd y brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Gadawodd Arwba Antilles yr Iseldiroedd ym 1986. Rhwng 2000 a 2005, pleidleisiodd y gweddill o'r ynysoedd i ddiddymu'r undeb. Ar 10 Hydref 2010, daeth Curaçao a Sint Maarten yn wledydd ymreolaethol tu fewn i Deyrnas yr Iseldiroedd. Daeth Bonaire, Sint Eustatius a Saba yn fwrdeistrefi arbennig o dan reolaeth uniongyrchol yr Iseldiroedd.

