Y Rhyfel Brwnt
Jump to navigation
Jump to search
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | Terfysgaeth wladwriaethol ![]() |
Rhan o | Y Rhyfel Oer ![]() |
Dechreuwyd | 1955 ![]() |
Daeth i ben | 1989 ![]() |
Lleoliad | Yr Ariannin ![]() |
![]() |
Ymgyrch o derfysgaeth wladwriaethol gan y jwnta filwrol a reolodd yr Ariannin o 1976 hyd 1983 oedd y Rhyfel Brwnt (Sbaeneg: Guerra Sucia). Targedodd luoedd milwrol a diogelwch y jwnta grwpiau gerila adain chwith, a thorrwyd hawliau dynol gan gynnwys artaith a llofruddiaethau torfol gan sgwadiau marwolaeth y jwnta. Amcangyfrifir i 10,000–30,000 o Archentwyr gael eu lladd gan y llywodraeth, a nifer ohonynt wedi "diflannu".[1] Roedd y Rhyfel Brwnt yn rhan o Ymgyrch Condor, sef rhaglen gan unbenaethau De America i ormesu gwrthwynebwyr a gwrthryfelwyr yr adain chwith yn ystod y Rhyfel Oer.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Dirty War. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2013.