Talaith Formosa
| Math | taleithiau'r Ariannin |
|---|---|
| Prifddinas | Formosa |
| Poblogaeth | 607,419 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Gildo Insfrán |
| Cylchfa amser | UTC−03:00, America/Argentina/Córdoba |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | ZICOSUR |
| Sir | yr Ariannin |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 72,066 km² |
| Uwch y môr | 115 metr |
| Yn ffinio gyda | Talaith Salta, Talaith Chaco, Boquerón, Presidente Hayes, Central, Ñeembucú |
| Cyfesurynnau | 26.1833°S 58.175°W |
| AR-P | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Formosa Chamber of Deputies |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Formosa Province |
| Pennaeth y Llywodraeth | Gildo Insfrán |
![]() | |
Talaith yng ngogledd-ddwyrain yr Ariannin yw Talaith Formosa (hen Sbaeneg am 'Hardd'), a rhan o'r ardal a elwir y Gran Chaco. Yn y de mae'n ffinio â thalaith Chaco ac yn y gorllewin â thalaith Salta. Yn y gogledd-ddwyrain mae'n ffinio ar Baragwái. Prifddinas y dalaith yw dinas Formosa.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 486,559. Mae Formosa yn un o daleithiau tlotaf yr Ariannin. Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant, yn enwedig magu gwartheg a thyfu cotwm.

Rhaniadau gweinyddol
[golygu | golygu cod]Rhennir y dalaith yn 9 sir (Sbaeneg: departamentos), fel a ganlyn (gyda'u prif drefi):
- Bermejo (Laguna Yema)
- Formosa (Formosa)
- Laishí (San Francisco de Laishí)
- Matacos (Ingeniero Juárez)
- Patiño (Comandante Fontana)
- Pilagás (Espinillo)
- Pilcomayo
- Pirané (Pirané)
- Ramón Lista (General Enrique Mosconi)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Buenos Aires · Catamarca · Chaco · Chubut · Córdoba · Corrientes · Entre Ríos · Formosa · Jujuy · La Pampa · La Rioja · Mendoza · Misiones · Neuquén · Río Negro · Salta · San Juan · San Luis · Santa Cruz · Santa Fe · Santiago del Estero · Tierra del Fuego · Tucumán
