Julio Cortázar

Oddi ar Wicipedia
Julio Cortázar
FfugenwJulio Denis Edit this on Wikidata
Llais05 JULIO CORTAZAR.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Awst 1914 Edit this on Wikidata
Dinas Brwsel Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1984 Edit this on Wikidata
Paris, 10fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin, Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, sgriptiwr, nofelydd, awdur ysgrifau, cyfieithydd, bardd, ysgrifennwr, academydd, dramodydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHopscotch Edit this on Wikidata
Arddullrealaeth hudol, barddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJean-Paul Sartre Edit this on Wikidata
MudiadSwrealaeth Edit this on Wikidata
PriodUgnė Karvelis, Aurora Bernárdez, Carol Dunlop Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Médicis am lenyddiaeth dramor Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Julio Cortázar, a ysgrifennai hefyd dan y ffugenw Julio Denis (26 Awst 191412 Chwefror 1984). Mae ei waith yn nodedig am ei dechnegau arbrofol a'i themâu dirfodol. Roedd yn un o brif lenorion y boom latinoamericano ac yn un o'r ffigurau pwysicaf yn llên yr Ariannin yn yr 20g.

Ganwyd yn Ixelles, un o fwrdeistrefi Brwsel, Gwlad Belg, yn fab i rieni Archentaidd. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y teulu yn ôl i'r Ariannin ac yno cafodd ei addysg. Gweithiodd fel athro a chyfieithydd. Ysgrifennodd ei nofelau cyntaf yn 1949 (Divertimento) a 1950 (El Examen), ond ni chawsant eu cyhoeddi nes ar ôl ei farwolaeth. Roedd Cortázar yn anfodlon â llywodraeth Juan Perón a sefyllfa'r dosbarth canol yn yr Ariannin, ac ymfudodd felly i Baris, Ffrainc, yn 1951.

Yn 1951 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, Bestiario, ac yn ddiweddarach casglwyd rhagor o'i ffuglen yn Final del juego (1956), Las armas secretas (1958), Historias de cronopios y de famas (1962), Todos los fuegos el fuego (1966), Un tal Lucas (1979), a Queremos tanto a Glenda, y otros relatos (1981). Ystyrir yr wrthnofel Rayuela (1963) yn gampwaith Cortázar. Cyhoeddodd dair nofel arall yn ystod ei oes: Los premios (1960), 62/modelo para armar (1968), a Libro de Manuel (1973). Ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, dramâu, a sawl cyfrol o ysgrifau.

Derbyniodd ddinasyddiaeth Ffrengig yn 1981.[1] Bu farw ym Mharis yn 69 oed i drawiad ar y galon, wedi iddo ddioddef o liwcemia am nifer o fisoedd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Julio Cortázar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) C. Gerald Fraser, "Julio Cortazar dies in Paris; Argentine writer of fiction", The New York Times (13 Chwefror 1984). Adalwyd ar 10 Ebrill 2019.