Afon Paraná

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Paranà ger Rosario.

Afon yn Ne America yw Afon Paraná (Sbaeneg: Río Paraná). Hi yw'r ail hwyaf o afonydd De America, ar ôl Afon Amazonas.

Ceir tarddiad yr afon yn ne Brasil, lle mae'r Río Grande ac Afon Paranaíba yn cyfarfod. Llifa tua'r de-orllewin, gan wahanu taleithiau São Paulo, Mato Grosso del Sur a Paraná. Ger dinas Salto del Guairá, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng tair gwlad: yr Ariannin, Paragwâi a Brasil. Yn nes ymlaen, ffurfia'r ffîn rhwng yr Ariannin a Paragwâi, ac mae Afon Iguazú ac Afon Paragwâi yn ymuno a hi. Mae'n cyrraedd y môr yn y Río de la Plata.

Cwrs Afon Paraná.