Afon Iguazú
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Brasil, yr Ariannin |
| Cyfesurynnau | 25.592459°S 54.591751°W, 25.3917°S 49.0031°W, 25.68°S 54.435°W |
| Tarddiad | Serra do Mar |
| Aber | Afon Paraná |
| Llednentydd | Afon San Antonio, Timbó River, Afon Paciência, Afon Capivari, Afon Passa Una, Afon Negro, Afon Capanema, Afon Siemens, Afon Floriano, Afon Cotegipe |
| Dalgylch | 62,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 1,320 cilometr |
| Arllwysiad | 1,746 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Afon yn Ne America yw Afon Iguazú (Sbaeneg: Río Iguazú, Portiwgaleg: Rio Iguaçu). Ceir ei tharddle ym mynyddoedd y Sierra do Mar, yn nhalaith Paraná (Brasil). Mae tua 1,300 km o hyd, y 1,205 km cyntaf o fewn Brasil, a'r 115 km wedyn yn ffurfio'r ffin rhwng yr Ariannin a Brasil. Llifa'r Afon Iguazú i mewn i Afon Paraná ger y fan lle mae ffiniau'r Ariannin, Brasil a Pharagwái yn cyfarfod. Tua 23 km cyn i'r afon gyrraedd y Paraná ceir Rhaeadrau Iguazú, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Wedi i'r afon lifo i mewn i Afon Paraná, gellie gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr ond ar wahân am geyn bellter; mae dyfroedd yr Iguazú yn glir tra mae dyfroedd y Paraná yn dywyll.


