Rhaeadrau Iguazú
Gwedd
Math | rhaeadr, atyniad twristaidd, horseshoe waterfall |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Iguazú National Park, Iguaçu National Park |
Rhan o'r canlynol | Afon Iguazú |
Sir | Talaith Misiones, Paraná |
Gwlad | Yr Ariannin Brasil |
Uwch y môr | 180 metr |
Gerllaw | Afon Iguazú |
Cyfesurynnau | 25.6953°S 54.4367°W |
Arllwysiad | 1,756 metr ciwbic yr eiliad |
Rhaeadrau ar Afon Iguazú ar y ffîn rhwng yr Ariannin (80%) a Brasil (20%) yw Rhaeadrau Iguazú (Sbaeneg: Cataratas del Iguazú, Portiwgaleg: Cataratas do Iguaçú). Dynodwyd dwy ochr yr afon o gwmpas y rhaeadrau yn barciau cenedlaethol, Parque Nacional Iguazú yn nhalaith Misiones yn yr Ariannin a'r Parque Nacional do Iguaçu yn nhalaith Paraná, Brasil.
Ffurfir y rhaeadrau o tua 275 rhaeadr unigol, bron 70 medr o uchder. Yn 1984 cyhoeddwyd y Parque Nacional Iguazú yn yr Arianinn yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO; yna yn 1986 cyhoeddwyd y Parque Nacional do Iguaçu ar ochr Brasil yn Safle Treftadaeth y Byd hefyd. Mae'r rhaeadrau a'r goedwig drofannol o'u cwmpas yn atyniad pwysig i dwristaid.