Hanes yr Ariannin
Ceir olion y trigolion cyntaf yn y tiroedd sydd nawr yn ffurfio yr Ariannin yn rhan ddeheuol Patagonia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth gogledd-orllewin o wlad yn rhan o ymerodraeth yr Inca yn ail hanner y 15g, a ceir y cofnodion cynharaf yn ffurf quipu yn y cyfnod hwnnw.
Dechreuodd hanes ysgrifenedig y wlad gyda dyfodiad yr Ewropeaid i'r rhanbarth yn gynnar yn yr 16g. Y cyntaf i gyrraedd yno oedd y Sbaenwr Juan Díaz de Solís a'i ŵyr yn 1516.
Yn 1776 sefydlodd y Sbaenwyr y Virreinato del Río de la Plata o nifer o diriogaethau blaenorol. Wedi Gwrthryfel Mis Mai yn 1810, sefydlwyd nifer o wladwriaethau annibynnol, yn cynnwys un yn dwyn yr enw Provincias Unidas del Río de la Plata. Cyhoeddwyd annibyniaeth ar 9 Gorffennaf 1816, a gorchfygwyd y Sbaenwyr mewn brwydr yn 1824. Sefydlwyd Gweriniaeth yr Ariannin rhwng 1853 a 1861,
Roedd adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifil a milwrol. Ar ôl yr Ail Rhyfel y Byd gwelwyd dyrchafiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands.
Ers dymchwel y junta milwrol ym 1983, mae pedwar etholiad rhydd wedi cadarhau lle'r Ariannin fel gweriniaeth ddemocrataidd, er gwaethaf gwaethygiad economaidd difrifol yn 2001 a dechrau 2002.