Aconcagua

Oddi ar Wicipedia
Aconcagua
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolAconcagua Provincial Park Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolY Saith Pegwn Edit this on Wikidata
SirLas Heras Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Uwch y môr6,961 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.6531°S 70.0117°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd6,961 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolMïosen Edit this on Wikidata
Rhiant gopaTirich Mir Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddPrincipal Cordillera Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig waddodol Edit this on Wikidata

Aconcagua yn Ariannin yw'r mynydd uchaf yn yr Andes, y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.

Mae'r mynydd yn 6,962 medr o uchder. I'r gogledd a'r dwyrain iddo mae'r Valle de las Vacas ac i'r gorllewin a'r de y Valle de los Horcones. Oherwydd ei uchder, mae eira parhaol arno. Saif y mynydd ym Mharc Rhanbarthol Aconcagua, ac mae'n nôd poblogaidd iawn i ddringwyr.

Ni yw ystyr yr enw yn glir, efallai o'r iaith Arawcaneg neu mapudungun Aconca-Hue neu o'r Quechua Ackon Cahuak.

Gellir dringo'r mynydd yn weddol hawdd o'r gogledd, lle nad oes angen offer dringo technegol er bod effeithiau yr uchder yn broblem a gall y tywydd newid yn sydyn iawn. Mae'r ail ffordd o'i ddringo, sef ar draws glasier los Polacos o'r Valle de las Vacas, yn anoddach a mwy peryglus. O'r de a'r de-orllewin mae'r mynydd yn anodd iawn ei ddringo; mae'r wyneb deheuol yn un o'r rhai anoddaf yn y byd, gyda 3,000 medr o ddringo. Dringwyd yr wyneb deheuol am y tro cyntaf yn 1954 gan griw o ddringwyr o Ffrainc. Y cyntaf i ddringo'r mynydd oedd criw gan arweiniad y Prydeiniwr Edward Fitzgerald yn 1897, pan gyrhaeddodd Mathias Zurbriggen o'r Swistir y copa ar 14 Ionawr. Dringwyd y mynydd gan frodor o Ariannin ei hun am y tro cyntaf yn 1934 pan gyrhaeddodd Nicolás Plantamura y copa, a'r wraig gyntaf i'w ddringo oedd Adriana Bance o Ffrainc yn 1940.