Javier Milei

Oddi ar Wicipedia
Javier Milei
Javier Milei yn Hydref 2022.
GanwydJavier Gerardo Milei Edit this on Wikidata
22 Hydref 1970 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Man preswylBuenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, doethinebwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Siambr Dirprwyon yr Ariannin, President of the Libertarian Party (Argentina), president-elect, Arlywydd yr Ariannin Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberty Advances, Avanza Libertad, Libertarian Party Edit this on Wikidata
PartnerDaniela Péres, Fátima Flórez Edit this on Wikidata
PerthnasauRodrigo Lussich Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://javiermilei.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd ac economegydd Archentaidd yw Javier Gerardo Milei (ganed 22 Hydref 1970) a wasanaetha yn Arlywydd yr Ariannin ers 10 Rhagfyr 2023. Mae'n arddel polisïau economaidd rhyddewyllysiol.

Ganed ef yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, a chafodd ei gamdrin yn llafar ac yn gorfforol gan ei rieni yn ystod ei blentyndod. Dioddefai economi'r Ariannin o orchwyddiant yn y 1980au, a phenderfynodd Milei yn ei arddegau i astudio'r pwnc er mwyn deall achosion y drafferth. Derbyniodd ei radd baglor mewn economeg o Brifysgol Belgrano a graddau meistr mewn economeg o'r Instituto de Desarrollo Económico y Social (IDES) a Phrifysgol Torcuato di Tella.[1] Bu'n gysylltiedig â sawl melin drafod a sefydliad academaidd yn yr Ariannin. Treuliodd 21 mlynedd o'i yrfa yn athro ym meysydd macro-economeg, economeg twf, micro-economeg, a mathemateg i economegwyr. Mae wedi cyhoeddi mwy na 50 o erthyglau academaidd. Datblygodd syniadaeth ryddewyllysiol, gan ymlynu ag ysgol feddwl yr "Awstriaid" ac ymyrraeth y llywodraeth yn yr economi. Disgrifia Milei ei hun yn anarcho-gyfalafwr, yn anarchydd y farchnad, ac yn rhyddewyllysiwr rhyddfrydol.[2]

Daeth Milei i'r amlwg o 2016 ymlaen drwy fynegi ei farnau economaidd a gwleidyddol ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol, a daeth yn ffigur hynod o ddadleuol. Câi ei ystyried yn sylwebydd anarferol, gyda steil ecsentrig i'w wallt a thymer ffyrnig, yn brygowthan a rhegi. Bu'n ymosod yn chwyrn ar y llywodraeth a gwleidyddion eraill, gan gyhuddo'r sefydliad gwleidyddol—neu la casta, fel y geilw efe—o lygredigaeth. Denai gefnogaeth oddi ar nifer o Archentwyr, yn enwedig dynion ifanc, sydd wedi'u siomi gan sefyllfaoedd gwleidyddol ac economaidd eu gwlad. Ymaelododd â'r glymblaid Avanza Libertad yn 2020, a fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn 2021. Aeth ati i gyd-sefydlu clymblaid newydd, La Libertad Avanza, â Victoria Villarruel, ac ymgyrchodd y ddau ohonynt ar gyfer yr arlywyddiaeth a'r is-arlywyddiaeth yn etholiad 2023.

Addawodd Milei raglen o ddiwygiadau radicalaidd i bolisïau economaidd, ariannol, a chyllidol yr Ariannin, gan gynnwys gostwng gwariant cyhoeddus 15%, diddymu'r banc canolog, a defnyddio doler yr Unol Daleithiau yn lle'r peso Archentaidd. Er iddo gymryd yr agwedd ryddewyllysiol ar faterion cymdeithasol megis rhyddid yr unigolyn i gymryd cyffuriau,[2] arddelai Milei safbwyntiau ceidwadol ar ambell bwnc, gan gynnwys gwrthwynebu erthyliad ac addysg ryw. Lleisiodd hefyd sawl datganiad dadleuol, er enghraifft cwestiynu'r nifer a fu farw yng nghyfnod y jwnta filwrol, a gwadu cyfrifoldeb y ddynolryw am newid hinsawdd. Mae nifer o sylwebwyr wedi disgrifio Milei yn radicalwr ac yn boblydd, a rhai wedi ei ddisgrifio yn rhan o'r adain dde eithafol, tra bod eraill wedi galw ei ideoleg yn anniffiniadwy.[3]

Safbwyntiau[golygu | golygu cod]

Mae Milei yn gefnogwr brwd dros drosglwyddo sofraniaeth Ynysoedd y Falklands o'r Deyrnas Unedig i'r Ariannin, gan ddatgan nad yw'r safbwynt hwnnw yn agored i drafodaeth. Fodd bynnag, mae wedi beirniadau'r rhyfel a lansiwyd gan y jwnta ym 1982 i gipio'r ynysoedd, ac yn cydnabod bod rhaid dod i gytundeb â'r Deyrnas Unedig a thrigolion y diriogaeth yn ddiplomyddol.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Nid yw Javier Milei yn briod, ac nid oes plant ganddo. Mae'n berchen ar bum Gafaelgi Seisnig.[1]

O ran ei grefydd, Catholig ydy Milei, er ei fod wedi ymddieithrio i raddau o'r ffydd honno. Mae wedi beirniadu'r Pab Ffransis a'i alw'n "gynrychiolydd y drwg ar y Ddaear". Mae Milei wedi ymddiddordi yn Iddewiaeth, ac wedi mynegi ei fwriad o erfyn ar rabi i'w dderbyn i'r ffydd Iddewig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "The making of a president – Javier Milei’s life before politics", Buenos Aires Times (21 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Tachwedd 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Sbaeneg) Juan Francisco Alonso, "Qué es la ideología libertaria y qué tanto se adhiere Javier Milei a ella", BBC Mundo (19 Awst 2023, diweddarwyd 20 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Tachwedd 2023.
  3. (Saesneg) Federico Rivas Molina, "Javier Milei, the unclassifiable Argentine politician", El País (30 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Ebrill 2023.