Carlos Menem

Oddi ar Wicipedia
Carlos Menem
Portread swyddogol yr Arlywydd Carlos Menem (1995).
Ganwyd2 Gorffennaf 1930 Edit this on Wikidata
Anillaco Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
o heintiad y llwybr wrinol Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Córdoba Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPartido Justicialista Edit this on Wikidata
PriodCecil Bolocco, Zulema Yoma Edit this on Wikidata
PlantCarlos Nair Menem Meza, Zulema María Eva Menem, Carlos Saúl Facundo Menem Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrand Order of King Tomislav, Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Order of the Nile, Order of Jamaica, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Uwch Groes Urdd Vytautas Fawr, doctor honoris causa of Keiō University, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Grand Cross, Special Class of the Order of the Sun of Peru, honorary doctor of the Peking University, Commander of Order of Manuel Amador Guerrero, Medal aur Galicia, honorary citizen of Yerevan, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Grand Cross of the Order of Good Hope, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd a chyfreithiwr Archentaidd oedd Carlos Saúl Menem (2 Gorffennaf 193014 Chwefror 2021) a fu'n Arlywydd yr Ariannin o Orffennaf 1989 i Ragfyr 1999. Gwasanaethodd hefyd yn Seneddwr dros Dalaith La Rioja o 2005 hyd at ei farwolaeth. Aelod o'r Partido Justicialista ydoedd, ac yn arweinydd y blaid honno o Awst 1990 i Fehefin 2001 ac eto o Dachwedd 2001 i Fehefin 2003, a gelwir ei ffurf ar ideoleg Peroniaeth yn Menemiaeth.

Ganed yn Anillaco yn Nhalaith La Rioja i deulu o dras Syriaidd. Cafodd ei fagu'n Fwslim,[1] ond yn ddiweddarach trodd yn Gatholig i ganlyn gyrfa wleidyddol. Daeth Menem yn Beronydd yn ystod taith i'r brifddinas Buenos Aires ac arweiniodd y Partido Justicialista yn Nhalaith La Rioja. Fe'i etholwyd yn llywodraethwr La Rioja ym 1973. Cafodd ei ddymchwel wedi i'r jwnta filwrol gipio grym ym 1976. Ail-etholwyd Menem yn llywodraethwr La Rioja unwaith eto yn sgil cwymp y jwnta ym 1983.

Bu Menem yn drech nag Antonio Cafiero, llywodraethwr Buenos Aires, yn rhagetholiadau'r Partido Justicialista ar gyfer etholiad arlywyddol 1989. Etholwyd Menem yn Arlywydd yr Ariannin ym 1989, a chwtogwyd ar y cyfnod trawsnewid wedi i'r Arlywydd Raúl Alfonsín ymddiswyddo o ganlyniad i orchwyddiant a therfysgoedd. Yn ystod ei dymor cyntaf, cefnogodd Menem ddiwygiadau economaidd yn unol â Chonsensws Washington, a chyflwynodd gynllun ym 1991 i sefydlogi'r peso Archentaidd a gostwng chwyddiant. Yn sgil y polisïau hyn, a phreifateiddio sawl cwmni gwladwriaethol, gwellodd yr economi. O ran polisi tramor, ailsefydlwyd cysylltiadau diplomyddol â'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf ers Rhyfel y Falklands (1982), a datblygodd Menem berthynas glos ag Unol Daleithiau America. Bu dau ymosodiad terfysgol yn ystod y cyfnod hwn, yn erbyn llysgenhadaeth Israel ym 1992 ac yn erbyn adeilad yr AMIA ym 1994. Wedi buddugoliaeth ei blaid yn etholiadau 1993, llwyddodd Menem i ddwyn perswâd ar Raúl Alfonsín i arwyddo Cytundeb Olivos a phasio gwelliant i Gyfansoddiad yr Ariannin ym 1994 a oedd yn galluogi Menem i ymgyrchu eto am yr arlywyddiaeth. Enillodd Menem etholiad 1995, a chychwynnodd ar ei ail dymor yn wyneb argyfwng economaidd newydd. Enillwyd etholiadau 1997 ac etholiad arlywyddol 1999 gan glymblaid o'i wrthwynebwyr.

Ceisiodd Menem am yr arlywyddiaeth eto yn 2003, ond cafodd ei drechu gan Néstor Kirchner yn y bleidlais i arwain y Partido Justicialista. Fe'i etholwyd yn seneddwr dros Dalaith La Rioja yn 2005, a bu yn y swydd honno hyd at ddiwedd ei oes. Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth, cafodd Menem ei roi ar brawf ar gyhuddiadau o fasnachu arfau yn anghyfreithlon, embeslu arian cyhoeddus, cribddail, a llwgrwobrwyaeth. Fe'i dedfrydwyd i saith mlynedd o garchar am fasnachu arfau a phedair mlynedd a hanner am embeslu; fe'i cafwyd yn ddi-euog o'r cyhuddiadau eraill. Oherwydd ei safle yn Seneddwr dros La Rioja, roedd ganddo freinryddid rhag y carchar.[2][3] Bu farw Carlos Menem yn Buenos Aires yn 90 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Carlos Menem. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mai 2021.
  2. (Saesneg) "Argentina: Ex-president gets 7 years in prison for arms smuggling". CNN. 13 Mehefin 2013.
  3. (Saesneg) "Americas | Menem probed over 1995 explosion". BBC. 16 Awst 2008. Cyrchwyd 7 Mai 2021.