Vicente López y Planes
| Vicente López y Planes | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Mai 1785 Buenos Aires |
| Bu farw | 10 Hydref 1856 Buenos Aires |
| Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfreithiwr, ysgrifennwr, gwleidydd |
| Swydd | Governor of Buenos Aires Province, Arlywydd yr Ariannin |
| Plaid Wleidyddol | Unitarian Party |
| Priod | Lucía Petrona Riera Merlo |
| Plant | Vicente Fidel López |
Bardd Sbaeneg a gwleidydd o'r Ariannin oedd Vicente López y Planes (3 Mai 1785 – 10 Hydref 1856).
Brwydrodd yn erbyn y Prydeinwyr yn ystod goresgyniadau Rhaglawiaeth y Río de la Plata yn 1806 a 1807. Gwasanaethodd yn arlywydd dros dro Taleithiau Unedig y Río de la Plata yn sgil ymddiswyddo Bernardino Rivadavia, o 7 Gorffennaf 1827 i 17 Awst 1827, a chaiff ei gyfri felly yn ail Arlywydd yr Ariannin.
Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth i Justo José de Urquiza, gwasanaethodd yn weinidog dan Manuel Dorrego, Llywodraethwr Talaith Buenos Aires, ac yn gyfreithiwr dan Juan Manuel de Rosas. Wedi cwymp Rosas, López y Planes oedd Llywodraethwr Talaith Buenos Aires o 13 Chwefror 1852 i 26 Gorffennaf 1852.
O ran ei farddoniaeth, fe'i cofir am Triunfo argentino, baled sy'n dathlu buddugoliaeth yr Archentwyr yn erbyn y Prydeinwyr, ac am ysgrifennu geiriau Himno Nacional Argentino (1813), yr anthem genedlaethol.
Roedd yn dad i'r llenor Vicente Fidel López.