Alberto Fernández

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Alberto Fernández
Presidente Alberto Fernández.jpg
Alberto Fernández yn ystod y seremoni i'w urddo yn arlywydd.
GanwydAlberto Ángel Fernández Edit this on Wikidata
2 Ebrill 1959 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Man preswylQuinta presidencial de Olivos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, academydd Edit this on Wikidata
SwyddChief of the Cabinet of Ministers of Argentina, legislator of the City of Buenos Aires, Arlywydd yr Ariannin Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPartido Justicialista Edit this on Wikidata
PartnerFabiola Yáñez Edit this on Wikidata
PlantTani Fernández Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://alferdez.com.ar Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma de Alberto Fernández.svg

Gwleidydd a chyfreithiwr Archentaidd yw Alberto Ángel Fernández Pérez (ganed 2 Ebrill 1959) a fu'n Arlywydd yr Ariannin ers Rhagfyr 2019.

Bywyd cynnar ac addysg (1959–85)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Alberto Ángel Fernández Pérez yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, ar 2 Ebrill 1959, i deulu a oedd yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth a'r gyfraith. Barnwr yn y llysoedd ffederal oedd ei lysdad, Carlos Pelagio Galíndez, a gwasanaethodd ei dad efe, Manuel Galíndez, yn Senedd Daleithiol La Rioja. Mynychodd Alberto Uwchysgol Mariano Moreno cyn iddo astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Buenos Aires, ac yno derbyniodd ei radd ym 1983. Cafodd ddiddordeb mewn ymgyrchu gwleidyddol ers ei ddyddiau yn y brifysgol.[1]

Wedi iddo raddio, dechreuodd Fernández addysgu yn adran gyfraith Prifysgol Buenos Aires, a bu at y swydd honno hyd yn oed wedi iddo droi at fyd gwleidyddiaeth. Ymaelododd â Phlaid Genedlaetholgar Gyfansoddiadol UNIR ym 1982, ond ym 1983 newidiodd ei gefnogaeth i'r Partido Justicialista (JP), plaid Beronaidd ei hideoleg.

Gyrfa wleidyddol cynnar (1985–95)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod llywodraeth yr Arlywydd Raúl Alfonsín, penodwyd Fernández yn ddirprwy gyfarwyddwr ar adran gyfreithiol Gweinyddiaeth yr Economi. Yn y cyfnod hwn magodd gyfeillgarwch â'r economegydd Domingo Cavallo, cyn-lywydd Banc Canolog yr Ariannin, a fyddai'n aelod blaenllaw o gabinet Carlos Menem yn y 1990au.

O 1989 i 1995 gwasanaethodd Fernández yn swydd yr Arolygydd Yswiriant, yng Ngweinyddiaeth yr Economi, dan yr Arlywydd Menem. Yn ystod y cyfnod hwn, goruchwyliodd y broses o ddadreoleiddio diwydiant yswiriant yr Ariannin. Gwasanaethodd ei dro yn llywydd ar Gymdeithas Arolygwyr Yswiriant America Ladin, ac ym 1994 cyd-sefydlodd Cymdeithas Ryngwladol yr Arolygwyr Yswiriant. Cynrychiolodd Fernández ei wlad fel cyflafareddwr yn y Cytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT) ac wrth sefydlu'r bloc masnach Mercosur. O 1991, gweithiodd Fernández dan Domingo Cavallo a oedd yn dal swydd Gweinidog yr Economi.

Gyrfa fusnes (1997–2003)[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo adael y llywodraeth, cafodd Fernández swyddi gweithredwr yn y diwydiannau arianneg ac yswiriant. Yn y cyfnod hwn daeth yn gyfarwydd â Néstor Kirchner, Llywodraethwr Talaith Santa Cruz. Fernández oedd un o aelodau gwreiddiol y felin drafod Beronaidd Grupo Calafate a sefydlwyd ym 1998 i wrthwynebu ailetholiad yr Arlywydd Menem.

Ym 1999 gweithiodd i ymgyrch arlywyddol yr ymgeisydd Peronaidd Eduardo Duhalde, a gollai'r etholiad. Yn 2000 cafodd Fernández ei ethol i ddeddfwrfa ddinesig Buenos Aires.

Pennaeth y Cabinet (2003–08)[golygu | golygu cod y dudalen]

Fernández oedd rheolwr ymgyrch Néstor Kirchner yn etholiad arlywyddol 2003. Yn sgil buddugoliaeth Kirchner, penodwyd Fernández yn Bennaeth y Cabinet trwy gydol ei arlywyddiaeth. Wedi i'w wraig Cristina Fernández de Kirchner ennill etholiad arlywyddol 2007, parhaodd Fernández yn swydd Pennaeth y Cabinet nes iddo ymddiswyddo yn 2008 yn sgil anghytundebau dros bolisi, gan gynnwys tollau allforion amaethyddol, gwleidyddioli'r farnwriaeth, ac ymdrechion i gyfyngu ar ddylanwad cwmnïau cyfryngau.

Kirchnerista alltud (2008–19)[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi iddo adael y llywodraeth, bu Fernández yn beirniadu'r Arlywydd Fernández de Kirchner yn gyhoeddus, yn enwedig ar faterion economaidd. Yn 2011 cyhoeddodd Fernández lyfr o'r enw Políticamente incorrecto: razones y pasiones de Néstor Kirchner sydd yn ymwneud â kirchnerismo, sef poblyddiaeth ganol-chwith y ddau arlywydd Kirchner (bu farw Nestor yn 2010). Sefydlodd Fernández blaid ei hun yn 2012, y Partido del Trabajo y la Equidad, ond ymhen fawr o dro ymunodd â Sergio Massa, sefydlwr y Frente Renovador, a gweithiodd yn rheolwr ar gyfer ymgyrch arlywyddol aflwyddiannus Massa yn 2015. Yn 2017 bu Fernández yn rheoli ymgyrch seneddol aflwyddiannus Florencio Randazzo.[1]

Wedi iddi illdio'r arlywyddiaeth ar ôl ei hail dymor, yn 2015, bu enw Fernández de Kirchner wedi ei bardduo gan sawl sgandal. Er gwaethaf, hi oedd prif wleidydd y garfan Beronaidd, a disgwylwyd iddi ymgyrchu yn erbyn yr Arlywydd Mauricio Macri yn etholiad 2019. Yn 2017 dechreuodd Fernández a Fernández de Kirchner drwsio'u perthynas, ac ym Mai 2019 datganodd Fernández de Kirchner y byddai'n cefnogi Fernández fel ymgeisydd arlywyddol, ac hyhi yn ymgeisydd is-arlywyddol dan enw'r glymblaid Frente de Todos. Enillodd Fernández 48% o'r bleidlais yn yr etholiad ar 27 Hydref 2019, yn drech na Macri a gafodd 40%.

Arlywyddiaeth (ers 2019)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers i Fernández gymryd yr awennau yn Rhagfyr 2019, bu ei lywodraeth yn gorfod ymdopi â'r pandemig COVID-19.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Fernández â Marcela Luchetti ym 1993, a chawsant un mab, Estanislao Fernández (g. 1994), sydd yn enwog fel perfformiwr drag dan yr enw Dyhzy ar wefan Instagram.[1] Cafodd Fernández a Luchetti ysgariad yn 2005. Cariad Fernández ers 2014 yw'r newyddiadurwraig ac actores Fabiola Yáñez (g. 1981), sydd yn gwasanaethu fel Prif Foneddiges yr Ariannin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Alberto Fernández. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mawrth 2021.