Mercosur

Oddi ar Wicipedia
Mercosur
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol, sefydliad rhanbarthol, undeb tollau Edit this on Wikidata
Poblogaeth295,007,000 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Mawrth 1991 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBrasil, yr Ariannin, Paragwâi, Wrwgwái, Feneswela Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadMercosur Pro Tempore Presidency Edit this on Wikidata
Sylfaenyddyr Ariannin, Brasil, Paragwâi, Wrwgwái Edit this on Wikidata
Isgwmni/auJoint Parliamentary Commission, Commons Market Council, Grupo Mercado Común, Mercosur Trade Commission, Mercosur Parliament, Mercosur Secretariat, Mercosur Permanent Review Tribunal, Mercosur Structural Convergence Fund, Mercosur Pro Tempore Presidency, MERCOSUR Social Institute, RECyT, Q110977941, Q110977956 Edit this on Wikidata
PencadlysMontevideo Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mercosur.int/, http://www.mercosur.int/pt-br/, https://www.mercosur.int/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner ac arwyddlun Mercosur
Cynhadledd Mercosur, 2005
Map aelodau Mercosur cyn i Feneswela cael ei diarddel
Gwledydd sy'n aelodau cysylltiol Mercosur

Mae Mercosur (talfyriad Sbaeneg) neu Mercosul (talfyriad Portiwgaleg) yn undeb tollau a masnachu ryngwladol rhwng gwledydd De America. Yr aelodau yn 2019 oedd yr Ariannin, Brasil, Wrwgwái a Paragwâi. Bu Feneswela yn aelod ond diarddelwyd y wlad yn 2016.

Mae'r Undeb yn weithredol ar gytundebau ar symud nwyddau am ddim, pobl ac arian o fewn yr aelod-wledydd. Mae gan sawl gwlad arall ar y cyfandir statws aelodaeth cyswllt: Periw, Bolifia, Chile, Ecwador a Colombia, ac mae gan Mecsico a Seland Newydd statws arsylwr.

Mae Baner Mercosur yn cynnwys cytser y De gan nodi pedwar aelod sefydlu'r Undeb.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth gwreiddyn syniad dros sefydlu Mercosur yn yr 1980au wrth i ddrwgdybiaeth a diffyg cydweithredu economaidd rhwng yr Ariannin a Brasil wella a throi'n fwy cymdlon.[1]

Sefydlwyd y gymuned ar 26 Mawrth 1991 gan Gytundeb Asunción (prifddinas Paragwâi) gyda'r nod i "Symud nwyddau, gwasanaethau a ffactorau cynhyrchiol yn rhydd rhwng gwledydd wrth sefydlu rheolau allanol cyffredin a mabwysiadu polisi masnachol cyffredin, cydlynu polisïau macro-economaidd a sectoraidd rhwng Gwladwriaethau a chysoni deddfwriaeth i sicrhau cryfhau'r broses integreiddio."

Ar hyn o bryd, mae Mercosur yn caniatáu symud dinasyddion yn rhad ac am ddim. Ieithoedd swyddogol y corff yw Sbaeneg a Portiwgaleg yn ôl Erthygl 46 o'r Protocol Ouro Preto (pt). Mae'r Guarani yn mwynhau'r un statws ers penderfyniad 35/06 Cyngor Mercado Comun (2006).

Mae Mercosur yn cynrychioli 82.3% o gyfanswm GDP De America ac ar y llaw arall, mae wedi'i ffurfio fel y parth economaidd a'r llwyfan diwydiannol mwyaf deinamig a chystadleuol o'r holl hemisffer deheuol. Fe'i hystyrir fel bloc economaidd y 4ydd Byd o ran maint masnachu. Dyma'r trydedd farchna integredig fwyaf yn y byd ar ôl yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America. Poblogaeth y Gymuned yw group yw 295 miliwn person gyda GDP cyfunnol o bron $3.5 triliwn yn 2012.[1]

Mae pencadlys y sefydliad wedi ei leoli yn Montevideo, prifddinas Wrwgwái.

Trafferthion[golygu | golygu cod]

Dydy Mercosur ddim mor integreddig na datblygedig â'r Undeb Ewropeaidd ac mae trafferthion ac oedi wedi bod ar hyd y ffordd. Yn 2012 fe ymunodd Feneswela gyda'r pedwar gwlad sefydlu ond yn 2016 diarddelwyd Feneswela wedi iddynt fethu â cynnal safonau masnach a hawliau dynol mewn i'w cyfraith gwladol. Yn 2012 cytunwyd hefyd i wahardd Paraagwâi dros dro wedi i senedd y wlad uchelgyhuddo yr Arlywydd, Fernando Lugo, wedi cyfres o ddigwyddiadau o wrthdaro sifil droi'r angeuol. Ail-ymaelododd y wlad yn Ebrill 2013 wedi'r etholiadau arlywyddol.[1]

Cytundebau a gymhwyswyd[golygu | golygu cod]

  • 1995 - Cytundeb fframwaith rhyng-ranbarthol ar gyfer cydweithrediad â'r Undeb Ewropeaidd wedi'i llofnodi ar 15 Rhagfyr 1995 13.
  • 2004 - Ar 25 Ionawr 2004 cytundeb arferion ffafriol gydag India ar 800 o gynhyrchion ym maesydd amaethyddol, cemegol, fferyllol a modurol.
  • 2004 - Cytundeb gyda Gwledydd Deheudir Affrica (2004) (Namibia, Botswana, Gwlad Swazi a Lesotho).
  • 2017 - Daeth Israel y wlad gyntaf y tu allan i America Ladin i arwyddo cytundeb masnach rydd gyda Mercosur.[2].

Gwybodaeth ychwanegol[golygu | golygu cod]

Mercosur

Yn ôl Protocol 20 i siarter y Mercosur, a arwyddwyd yn 1991, bwredir cyhoeddi a chylchredeg arian bath i'r Undeb yn y dyfodol. Enw'r arian bydd y Gaucho. Nid oedd yr arian yn weithredol yn 2019.[3]

Dechreuir defnyddio plât cofrestru cerbyd i'r aelodau, fel a geir i gerbydau'r Undeb Ewropeaidd, ers Ionawr 2016.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]