Baner Mercosur

Oddi ar Wicipedia

Baner MERCOSUL

Baner desg
Baner desg

Mae baner Mercosur yn symbol ar gyfer cymuned economaidd 'Mercosur' yn Ne America (mercosur yw'r talfyriad yn Sbaeneg, mercosul yw'r talfyriad yn Portiwgaleg). Mae MERCOSUR yn gyfunair am MERC (marchnad) a SUR (y de) ac yn debyg i'r Undeb Ewropeaidd. Yr aelodau yw Brasil, Wrwgwái, Paragwâi a'r Ariannin.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dewiswyd y symbol a'r faner wedi cystadleuaeth a hyrwyddwyd gan adran gyfathrebyg Llywyddion y Cenedl Aelodau. Cyflwynwyd 1,412 cynnig a dewiswyd cynllun y dylunydd o'r Ariannin, Carlos Varau.[1] Cymerdwywyd y cynllun buddugol yn XI Cyfarfod Cyngor y Farchnad Gyffredin, a gynhaliwyd ar 16 ac 17 Rhagfry 1996 yn ninas Fortaleza, Ceará, Brasil. Yn 2002, rheoleiddiwyd y talfyriad 'MERCOSUR' ac arwyddlun MERCOSUR, drwy Penderfyniad Rhif 17/02 y Cyngor. O hynny ymlaen, roedd y symbol yma i'w ddefnyddio pan fyddai cyrff a grwpiau sy'n gysylltiedig a gellir eu defnyddio heb caniatâd blaenorol gan gyrff cenedlaethol ac unigolion ond iddynt fod yn gyson â daliadau MERCOSUR.[2]

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Mae baner Mercosur yn cynnwys llain wen ac arno symbol MERCOSUR sef pedair seren las wedi eu lleoli uwchben llinell cromlin werdd. Mae'r sêr yn cynrychioli cytser y De wrth iddo ymddangos dros y gorwel. Yn hynny o beth, mae'n debyg i'r sêr sydd ar faner Seland Newydd.

Mae'r sêr hefyd yn cynrychioli y gwledydd sefydlodd y Gymuned: yr Ariannin, Brasil, Paragwâi ac Wrwgwâi

Baneri Cytsêr y De[golygu | golygu cod]

Mae sawl baner yn cynnwys cytser y De yn eu dyluniad. Yn eu mysg mae:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cuál es el significado del logo del Mercosur?[1] Archifwyd 2016-07-10 yn y Peiriant Wayback.Nodyn:Es. In 10 july 2018
  2. MERCOSUR/CMC/DEC Nº 17/02 MERCOSUR/CMC/DEC Nº 17/02 SÍMBOLOS DEL MERCOSUR Archifwyd 2018-07-11 yn y Peiriant Wayback. Nodyn:Es