Julio Argentino Roca

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Julio Argentino Roca
Julio A Roca.jpg
Ganwyd 17 Gorffennaf 1843 Edit this on Wikidata
Tucumán Province Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Hydref 1914 Edit this on Wikidata (71 oed)
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Gwaith Milwr, diplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Priod Clara Funes de Roca Edit this on Wikidata
Plant Julio Argentino Pascual Roca Edit this on Wikidata
Teulu Ataliva Roca Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma de J. A. Roca.jpg

Milwr a gwleidydd a fy'n Arlywydd yr Ariannin oedd Alejo Julio Argentino Roca (17 Gorffennaf 184319 Hydref 1914).

Yn 1877, enwyd Roca yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd, rhan o'r hyn sy'n cael yr enw Concwest yr Anialwch, yn niwedd 1878. Yn Ebrill 1879 dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd Choele Choel ac yna ymlaen at y Río Negro a'r Afon Neuquén. Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas.

Roedd perthynas dda rhyngddo a'r Cymry yn y Wladfa. Bu anghydfod rhwng y Cymry a'r llywodraeth, oedd yn mynnu bod pob dyn o oed milwrol yn drilio bob dydd Sul. Nid oedd y Cymry yn gwrthod drilio fel y cyfryw, ond yr oeddynt yn amharod i wneud ar y Sul. Carcharwyd rhai ohonynt, ond yn y diwedd cafwyd cyfaddawd wedi i Roca ei hun gymeryd diddordeb yn y mater.