Domingo Faustino Sarmiento

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Domingo Faustino Sarmiento
Sarmiento.jpg
Ganwyd 15 Chwefror 1811 Edit this on Wikidata
San Juan Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Medi 1888 Edit this on Wikidata (77 oed)
Achos: Methiant y galon Edit this on Wikidata
Asunción Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, Ysgrifennwr, newyddiadurwr, Milwr, diplomydd, Hanesydd Edit this on Wikidata
Swydd President of Argentina, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, President of Argentina, ambassador of Argentina to Chile Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Unitarian Party Edit this on Wikidata
Mam Paula Albarracín de Sarmiento Edit this on Wikidata
Priod Benita Martínez Pastoriza Edit this on Wikidata
Plant Ana Faustina Sarmiento Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma de Sarmiento.jpg

Gwleidydd, llenor, ac addysgwr Archentaidd oedd Domingo Faustino Sarmiento (15 Chwefror 181111 Medi 1888) a wasanaethodd yn Arlywydd yr Ariannin o 1868 i 1874. Mae'n nodedig yn llên yr Ariannin, ac America Ladin yn gyffredinol, am ei ysgrif hir Facundo (1845).

Ganwyd yn San Juan yng ngorllewin yr Ariannin. Trwy hunanaddysg daeth yn ddyn ifanc deallus a gwleidyddol. Treuliodd rhyw deng mlynedd yn alltud yn Tsile, ac yno yr oedd yn weithgar yn addysg gyhoeddus y wlad. Daeth yn adnabyddus hefyd fel newyddiadurwr ac ysgrifwr gwleidyddol, a theithiodd i Ewrop a'r Unol Daleithiau. Dychwelodd i'r Ariannin i gynorthwyo yn y gwrthryfel yn erbyn yr unben Juan Manuel de Rosas. Daeth yn wleidydd amlwg yn ei famwlad, ac etholwyd yn arlywydd yn 1868. Aeth ati i ddiwygio'r gyfundrefn addysg yn ystod ei arlywyddiaeth.

Bywyd cynnar (1811–40)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Domingo Faustino Sarmiento ar 15 Chwefror 1811 i deulu tlawd yn San Juan, hen dref ar droed yr Andes a oedd ar y pryd yn rhan o Raglywiaeth Río de la Plata. Ni chafodd fawr o addysg ffurfiol, ond darllenwr brwd ydoedd yn ei fachgendod. Meddai taw'r llyfr a gafodd y dylanwad mwyaf arno oedd hunangofiant Benjamin Franklin. Gweithiodd fel athro mewn ysgol wledig yn 15 oed, ac yn ddiweddarach cafodd swyddi clerc siop a thirfesurydd.[1]

Cyfnod yn Tsile a gwledydd eraill (1840–52)[golygu | golygu cod y dudalen]

Aeth yn wleidyddol yn ystod ei ieuenctid. yn ystod cyfnod o anhrefn yn nhaleithiau'r Ariannin a arweiniodd at unbennaeth Juan Manuel de Rosas yn Buenos Aires. Fel deddfwr taleithiol a oedd yn gwrthwynebu Rosas, cafodd Sarmiento ei alltudio o'r wlad. Ffoes i Tsile, ac yno daeth yn hyrwyddwr dros ysgolion gyhoeddus. Cyhoeddodd nifer o bamffledi ac erthyglau yn lladd ar lywodraeth Rosas, gan gynnwys newyddiaduraeth wleidyddol ar gyfer y papur newydd El Mercurio yn Valparaíso.[2]

Yn ystod ei alltudiaeth, ysgrifennodd Sarmiento ei gampwaith, yr ysgrif hir Facundo, o Civilización i barbarie (1845), neu yn fyr Facundo. Mewn enw, bywgraffiad o'r caudillo Juan Facundo Quiroga ydyw, ac mae'r gwaith yn ymhelaethu ar holl agweddau caudillismo ac arweinyddiaeth wleidyddol gan yr unigolyn. Gwaith unigryw ydy Facundo, sy'n cyfuno elfennau hanesyddiaeth, bywgraffiad, traethiad y nofel, ac astudiaeth gymdeithasegol. Rhennir yn dair rhan: y cyntaf yn ddisgrifiad o ddaearyddiaeth a chymdeithas y pampas, yr ail yn fywgraffiad o Facundo, sy'n symboleiddio anwaredd y pampas ac yn cyfateb i Rosas; a'r drydedd ran yn fath o faniffesto ar gyfer y gyfundrefn wleidyddol yn sgil cwymp yr unben. Cafodd Facundo effaith bwysig ar syniadaeth wleidyddol yr Ariannin, ac yn fynegiant o'r hollt rhwng gwareiddiad ac anwaredd sy'n diffinio diwylliant a chymdeithas America Ladin yn y 19g.

Yn 1845, danfonwyd Sarmiento gan lywodraeth Tsile i Ewrop a'r Unol Daleithiau am dair mlynedd i astudio'r ysgolion yn y gwledydd hynny. Dylanwadwyd arno'n arbennig gan y drefn addysg Americanaidd a arloeswyd gan Horace Mann, a bu Sarmiento gohebu â'i weddw Mary Tyler Mann am weddill ei oes.Ysgrifennodd atgofion o'i deithiau tramor, a phan dychwelodd i Tsile fe gyhoeddodd hunangofiant i amddiffyn ei hunan rhag athrod yn ei erbyn gan ei elynion gwleidyddol.[1]

Gyrfa wleidyddol yn yr Ariannin (1852–68)[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd Sarmiento i'r Ariannin adeg cwymp Rosas yn 1852, ac yn y blynyddoedd i ddod daeth yn wleidydd ac yn swyddog cyhoeddus gweithgar. Ymwelodd â'r Unol Daleithiau unwaith eto yn y cyfnod 1865–68 yn swydd gweinidog llawnalluog, a chyfarfu ag Americanwyr o fri, yn eu plith y beirdd Ralph Waldo Emerson ac Henry Wadsworth Longfellow a'r ysgolhaig George Ticknor. Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Michigan ym Mehefin 1868, ychydig misoedd cyn iddo ddychwelyd i'r Ariannin.[1]

Arlywyddiaeth (1868–74)[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Sarmiento i'r arlywyddiaeth am dymor o chwe mlynedd yn 1868, a dewisodd Adolfo Alsina yn is-arlywydd iddo. Dechreuodd yn y swydd ar 12 Hydref 1868, gan olynu Bartolomé Mitre. Aeth ati i roi ei raglen o bolisïau rhyddfrydol ar waith, drwy gael gwared ar weddillion caudillismo, diwygio'r drefn addysg, ac adeiladu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.[2] Daeth â therfyn i Ryfel y Cynghrair Triphlyg yn 1870. Ildiodd yr arlywyddiaeth i'w olynydd, Nicolás Avellaneda, yn Hydref 1874.

Diwedd ei oes (1874–88)[golygu | golygu cod y dudalen]

Dioddefodd o afiechyd yn ei flynyddoedd olaf a chafodd ei daro'n fyddar. Treuliodd y gaeaf ym Mharagwâi, ac yno yn Asunción bu farw ar 11 Medi 1888.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Domingo Faustino Sarmiento" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Domingo Faustino Sarmiento. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2019.