Le Corbusier

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Le Corbusier
Le Corbusier (1964).jpg
GanwydCharles-Edouard Jeanneret-Gris Edit this on Wikidata
6 Hydref 1887 Edit this on Wikidata
La Chaux-de-Fonds Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1965 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Roquebrune-Cap-Martin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Swistir, Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethpensaer, arlunydd, ysgrifennwr, cynlluniwr trefol, ffotograffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNotre Dame du Haut, Villa Savoye, Unité d'Habitation Building Style, Radiant City Edit this on Wikidata
MudiadPensaernïaeth Fodern, Pensaernïaeth Friwtalaidd, purism Edit this on Wikidata
TadGeorges-Édouard Jeanneret Edit this on Wikidata
PriodYvonne Le Corbusier Edit this on Wikidata
Gwobr/auAIA Gold Medal, Medal Aur Frenhinol, Frank P. Brown Medal, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Sikkens Edit this on Wikidata
Llofnod
Le Corbusier signature.svg

Pensaer Ffrengig, yn enedigol o'r Swistir oedd Le Corbusier, enw gwreiddiol Charles-Edouard Jeanneret (6 Hydref 188727 Awst 1965).[1][2] Roedd hefyd yn ddylunydd, paentiwr, cynllunydd trefol, ysgrifennwr, ac yn un o arloeswyr yr hyn a ystyrir bellach yn "bensaernïaeth fodern". Fe'i ganed yn y Swistir a daeth yn ddinesydd Ffrengig ym 1930. Roedd ei yrfa'n rhychwantu pum degawd, a dyluniodd adeiladau yn Ewrop, Japan, India, a Gogledd a De America.

"Le Corbusier" oedd ei ffugenw wrth ysgrifennu i'r Esprit Nouveau; yn ddiweddarach daeth i'w ddefnyddio yn lle ei enw bedydd. Ystyrir ef yn un o benseiri pwysicaf yr 20g. Nodweddion ei arddull oedd defnydd helaeth o goncrid wedi ei gryfhau a hoffter o gynlluniau mawr, hyd at gynllunio trefi cyfain. Daeth ei arddull i ddwyn yr enw Pensaernïaeth Friwtalaidd, enw a ddaeth o'r Ffrangeg béton brut, sef concrit amrwd, un o'r deunyddiau roedd Le Corbusier yn ei ffafrio.

Enghraifft o'i waith: priordy Sainte-Marie de La Tourette yn Éveux ger Lyon

Ei nod mewn bywyd oedd darparu gwell amodau byw i drigolion dinasoedd gorlawn, ac roedd Le Corbusier yn ddylanwadol mewn cynllunio trefol, ac roedd yn aelod sefydlol o'r Congrès International d'Architecture Moderne (CIAM). Paratôdd Le Corbusier y prif gynllun ar gyfer dinas Chandigarh yn India, a chyfrannodd ddyluniadau penodol ar gyfer sawl adeilad yno, gan gynnwys adeiladau'r llywodraeth.

Ar 17 Gorffennaf 2016, cofrestrwyd un-deg-saith o brosiectau gan Le Corbusier, mewn saith gwlad, yn rhestr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO fel 'Gwaith Pensaernïol Le Corbusier, Cyfraniad Eithriadol i'r Mudiad Modern'.[3]

Fodd bynnag, mae Le Corbusier yn parhau i fod yn ffigwr dadleuol. Mae rhai o'i syniadau cynllunio trefol wedi cael eu beirniadu'n hallt am eu difaterwch â safleoedd diwylliannol gerllaw, mynegiant a thegwch cymdeithasol, ac mae ei gysylltiadau â ffasgaeth, gwrthsemitiaeth a'r unben Benito Mussolini wedi arwain at rywfaint o gynnen barhaus yn ei gylch.[4][5][6]

Bywyd cynnar (1887–1904)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Charles-Édouard Jeanneret ar 6 Hydref 1887 yn La Chaux-de-Fonds, dinas fach yng nghanton Neuchâtel a oedd yn Ffrangeg ei hiaith yng ngogledd-orllewin y Swistir, ym mynyddoedd Jura, 5 cilometr (3.1 milltir) dros y ffin o Ffrainc. Roedd yn dref ddiwydiannol, gyda llawer o ffatrioedd creu oriawrau yno. Mabwysiadodd y ffugenw Le Corbusier ym 1920. Roedd ei dad yn grefftwr a oedd yn enameiddio blychau ac oriorau, ac roedd ei fam yn dysgu piano. Roedd ei frawd hynaf Albert yn filoinydd amatur.[7] Mynychodd ysgol feithrin a ddefnyddai ddulliau Fröbelian.[8][9][10]

Fel ei gyfoeswr, Frank Lloyd Wright ( a oedd o linach Cymreig) a'r Almaenwr Mies van der Rohe, ni chafodd Le Corbusier hyfforddiant ffurfiol fel pensaer. Denwyd ef at y celfyddydau gweledol; yn bymtheg oed aeth i'r ysgol gelf ddinesig yn La-Chaux-de-Fonds a ddysgodd y celfyddydau cymhwysol a oedd yn gysylltiedig â gwneud clociau ac oriawau. Dair blynedd yn ddiweddarach mynychodd y cwrs addurno uwch, cwrs a sefydlwyd gan yr arlunydd Charles L'Eplattenier. Ysgrifennodd Le Corbusier yn ddiweddarach fod L'Eplattenier wedi ei wneud yn "ddyn y coedwigoedd" ac wedi dysgu iddo beintio o fyd natur.[7] Byddai ei dad yn aml yn mynd ag ef am dro i'r mynyddoedd o amgylch y dref. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, "roeddem yn gyson ar fynydd-dir; fe wnaethon ni ddod yn gyfarwydd â gorwel helaeth, pell."[11] Ei athro pensaernïaeth yn yr Ysgol Gelf oedd y pensaer René Chapallaz, a gafodd ddylanwad mawr ar ddyluniadau tai cynharaf Le Corbusier. Adroddodd yn ddiweddarach mai'r athro celf L'Eplattenier a barodd iddo ddewis pensaernïaeth. "Roedd gen i ofn pensaernïaeth a phenseiri," ysgrifennodd. "... Roeddwn i'n un ar bymtheg oed, derbyniais y dyfarniad ac ufuddheais: symudais i mewn i fyd pensaernïaeth."[12]

Teithio a chynllunio'r tŷ cyntaf (1905–1914)[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Le Corbusier ddysgu ei hun trwy fynd i'r llyfrgell i ddarllen am bensaernïaeth ac athroniaeth, trwy ymweld ag amgueddfeydd, trwy fraslunio adeiladau, a thrwy eu hadeiladu. Ym 1905, dyluniodd ac adeiladodd ef a dau fyfyriwr arall, dan oruchwyliaeth eu hathro, René Chapallaz, ei dŷ cyntaf, y Villa Fallet, ar gyfer yr engrafwr Louis Fallet, ffrind i'w athro Charles L'Eplattenier. Wedi'i leoli ar ochr y bryn coediog ger Chaux-de-fonds, roedd yn sialens enfawr gyda tho serth yn yr arddull Alpaidd leol a phatrymau geometrig lliw wedi'u crefftio'n ofalus ar y ffasâd. Arweiniodd llwyddiant y tŷ hwn at adeiladu dau dŷ tebyg, y Villas Jacquemet a Stotzer, yn yr un ardal.[7]

Ym mis 1907, gwnaeth ei daith gyntaf y tu allan i'r Swistir, gan fynd i'r Eidal; yna'r gaeaf hwnnw teithiodd drwy Budapest i Fienna, lle arhosodd am bedwar mis a chwrdd â Gustav Klimt a cheisio, heb lwyddiant, cwrdd â Josef Hoffmann.[7] Yn Fflorens, ymwelodd â Charterhouse Florence yn Galluzzo, a wnaeth argraff ddofn arno. "Byddwn i wedi hoffi byw yn un o'r hyn roedden nhw'n ei alw'n gelloedd," ysgrifennodd yn ddiweddarach. "Dyma oedd yr ateb ar gyfer math unigryw o dai gweithwyr, neu'n hytrach ar gyfer paradwys ddaearol."[13] Teithiodd i Baris, ac yn ystod un-deg-pedwar mis rhwng 1908 a 1910 bu’n gweithio fel drafftiwr yn swyddfa’r pensaer Auguste Perret, arloeswr y defnydd o 'goncrit-wedi’i-atgyfnerthu' mewn adeiladu preswyl, a phensaer y gwaith Art Deco Théâtre des Champs- Élysées. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhwng Hydref 1910 a Mawrth 1911, teithiodd i'r Almaen gan weithio am bedwar mis yn swyddfa Peter Behrens, lle roedd Ludwig Mies van der Rohe a Walter Gropius hefyd yn gweithio ac yn dysgu.[7]

Yn 1911, teithiodd eto gyda'i ffrind August Klipstein am bum mis;[14] y tro hwn, teithiodd i'r Balcanau gan ymweld â Serbia, Bwlgaria, Twrci, Gwlad Groeg, yn ogystal â Pompeii a Rhufain, gan lenwi bron i 80 o lyfrau brasluniau'n gofnod o'r hyn a welodd - gan gynnwys llawer o frasluniau o'r Parthenon, y byddai ei ganmol, yn ddiweddarach, yn ei gwaith Vers une architecture (1923). Soniodd am yr hyn a welodd yn ystod y daith hon mewn llawer o'i lyfrau, ac yn bwysicach, roedd yn destun ei lyfr olaf, sef Le Voyage d'Orient.[7]

Yn 1912, dechreuodd ei brosiect mwyaf uchelgeisiol: tŷ newydd i'w rieni, hefyd wedi'i leoli ar ochr bryn coediog (ger La-Chaux-de-Fonds). Roedd tŷ Jeanneret-Perret yn fwy na'r lleill, ac mewn arddull fwy arloesol; roedd y llinellau llorweddol yn cyferbynnu’n ddramatig â’r llethrau alpaidd serth, ac roedd y waliau gwyn a’r diffyg addurn yn cyferbynnu’n llwyr â’r adeiladau eraill ar ochr y bryn. Trefnwyd y rhannau mewnol o amgylch pedair colofn y salon yn y canol, gyda'r tu mewn agored fel rhyw ragymadrodd i'r hyn y byddai'n ei greu yn ei adeiladau diweddarach.

Roedd y prosiect yn ddrytach i'w adeiladu nag a ddychmygodd; gorfodwyd ei rieni i symud o'r tŷ o fewn deng mlynedd, ac adleoli mewn tŷ llai. Fodd bynnag, arweiniodd y tŷ hwn at gomisiwn i adeiladu fila hyd yn oed yn fwy mawreddog fyth - ym mhentref cyfagos Le Locle, ar gyfer gwneuthurwr clcoiau, Georges Favre-Jacot. Dyluniodd Le Corbusier y tŷ newydd mewn llai na mis. Dyluniwyd yr adeilad yn ofalus i ffitio ei safle ar ochr y bryn, ac roedd y cynllun mewnol yn helaeth ac wedi'i ddylunio o amgylch cwrt ar gyfer y golau mwyaf posibl, ac yn gwbwl wahanol i'r tŷ traddodiadol.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. American Heritage Dictionary; Le Corbusier; adalwyd 16 Awst 2019
  2. Merriam-Webster; Corbusier, Le; adalwyd 16 Awst 2019
  3. "The Architectural Work of Le Corbusier, an Outstanding Contribution to the Modern Movement". Cyrchwyd 14 Hydref 2016.
  4. www.bbc.co.uk
  5. www.nytimes.com
  6. Antliff,Mark, "Avant-Garde Fascism: The Mobilization of Myth, Art, and Culture in France, 1909–1939"
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 Journel 2015, t. 32. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTEJournel2015" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTEJournel2015" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTEJournel2015" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTEJournel2015" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "FOOTNOTEJournel2015" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  8. Marc Solitaire, Le Corbusier et l'urbain – la rectification du damier froebelien, pp. 93–117.
  9. Actes du colloque La ville et l'urbanisme après Le Corbusier, éditions d'en Haut 1993 – ISBN 2-88251-033-0.
  10. Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 9–27, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – ISBN 2-7061-0325-6.
  11. Le Corbusier, L'Art décoratif d'aujourdhui (1925), tud. 198.
  12. Ffynhonnell: Jean Petit, Le Corbusier lui-meme, Rousseau, Geneva 1970, tud. 28.
  13. Letter to Eplattenier in Dumont, Le Corbusier, Lettres a ses maitres, vol. 2, pp. 82–83.
  14. Žaknić, Ivan (2019). Klip and Corb on the road. Zürich: Scheidegger & Spiess. ISBN 978-3-85881-817-1.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: