Gustav Klimt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gustav Klimt
Klimt.jpg
Ganwyd14 Gorffennaf 1862 Edit this on Wikidata
Baumgarten, Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1918 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Awstria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol y Celfyddydau Cymhwysol Fienna Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cynllunydd, arlunydd graffig, drafftsmon, drafftsmon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPortrait of Adele Bloch-Bauer I, Beethoven Frieze, Y Gusan, Judith and the Head of Holofernes Edit this on Wikidata
ArddullArt Nouveau Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorge Minne Edit this on Wikidata
MudiadSymbolaeth (celf), Art Nouveau Edit this on Wikidata
PartnerEmilie Louise Flöge Edit this on Wikidata
Llofnod
Klimt, Gustav Signatur Signatur.jpg

Peintiwr Symbolaidd o Awstria oedd Gustav Klimt (14 Gorffennaf 18626 Chwefror 1918). Roedd yn aelod blaenllaw yn y sefydliad Celfyddydol Newydd yn Fienna. Mae ei brif waith yn cynnwys paentiadau, murluniau, darluniadau a darnau o gelfyddyd amrhywiol eraill. Un o brif bynciau gwaith Klimt oedd y corff benywaidd ac yn aml mae ei waith yn cynnwys elfen erotig.


Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Cusan, 1907–08
Adele Bloch-Bauer I, 1907

Yn fab i engrafwr, astudiodd Klimt yn Fienna pan fu'r ddinas ar ei anterth, yn brif ddinas gyfoethog Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Ym 1880 cynhyrchodd murluniau yn arddull clasurol-realistig y cyfnod ar gyfer adeiladau cyhoeddus yn cynnwys y Burgtheater ac Amgeuddfa'r Kunsthistorisches.

Datblygodd ei waith i fod yn fwy arbrofol, ond beirniadwyd ei furluniau ar gyfer adeilad Prifysgol Fienna am eu delweddau rhyfeddol a'u harddull addurniadol, bras.

Fel canlyniad i'r feirniadaeth, ym 1897 bu'n un o'r arlunwyr a ffurfiodd y grŵp Wiener Sezession (Ymwahaniad Fienna) i herio'r sefydliad celfyddydol ceidwadol.

Wedi'i ddylanwadu gan fudiadau celfyddydol avant-garde o wledydd eraill Ewrop datblygodd ar ddiwedd ei oes arddull cyfoethog gyda symbolaeth gymhleth ac yn aml gynnwys erotig.

Ar ôl 1900 canolbwyntiodd ar bortreadau a thirluniau, er iddo gynhyrchu dau o'i furluniau mwyaf yn ystod y cyfnod yma, y Frieze Beethoven ac arddangoswyd ym 1902, ac ardduneddau ar gyfer y Palais Stoclet, Brwsel (1904-1911).

Treilliodd Klimt yr haf yn Attersee, ger Salzburg, a ysbrydolodd llawer o'i dirluniau a ble peintiodd rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Y Cusan, 1907-8.[1]

Cafodd nifer o'i weithiau eu difetha yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Gwerthodd ei lun Adele Bloch-Bauer I (1907), am $135 miliwm yn Efrog Newydd yn 2006 [2]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-01. Cyrchwyd 2015-03-25.
  2. Vogel, Carol (2006-06-19). "NY Times report from June 19, 2006". Nytimes.com. Retrieved 2011-05-15..
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: