Walter Gropius
| Walter Gropius | |
|---|---|
| Ganwyd | Walter Adolf Georg Gropius 18 Mai 1883 Berlin |
| Bu farw | 5 Gorffennaf 1969 Boston |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen Natsïaidd, Yr Almaen |
| Galwedigaeth | pensaer, addysgwr, cynlluniwr trefol, cynllunydd, athro |
| Cyflogwr |
|
| Mudiad | Bauhaus, International Style |
| Tad | Walter Gropius |
| Mam | Manon Gropius |
| Priod | Alma Mahler, Ise Gropius |
| Plant | Manon Gropius |
| Perthnasau | Martin Gropius |
| Gwobr/au | Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Frenhinol, Gwobr Goethe, Medal Ernst Reuter, Medal Albert, Honorary Royal Designer for Industry, Johann Heinrich Merck Honour |
| llofnod | |
Pensaer ac addysgwr Almaenig oedd Walter Adolph Gropius (18 Mai 1883 – 5 Gorffennaf 1969). Sefydlodd ysgol Bauhaus a gafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth fodern.[1]
Ganwyd ym Merlin yn fab i bensaer, ac astudiodd ei grefft yn ysgolion technegol München (1903–04) a Berlin–Charlottenburg (1905–07). Treuliodd ei yrfa gynnar yn cynllunio ffatrïoedd a swyddfeydd, a magodd ddiddordeb mewn pensaernïaeth flaengar a chyfuno mecaneiddio gyda chelfyddyd. Gwasanaethodd fel swyddog y marchfilwyr ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enillodd y Groes Haearn.

Wedi'r rhyfel, daeth Gropius yn gyfarwyddwr ar y Staatliches Bauhaus Weimar. Fe arloesoedd ddull newydd o addysgu'r celfyddydau dylunio: hyfforddiant ymarferol fel bod y cynllunydd yn gyfarwydd â'r prosesau a'r defnyddiau. Yn y 1920au, datblygodd nodweddion arddull Bauhaus: ffurfiau geometrig, wynebau llyfn, amliniau rheolaidd, lliwiau cynradd, a defnyddiau modern. Symudodd y Bauhaus i Dessau ym 1925, ac ymddiswyddodd Gropius ym 1928.
Ymgartrefodd Gropius yn Lloegr ym 1934, un flwyddyn wedi i'r llywodraeth Natsïaidd gau'r Bauhaus. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1937 i addysgu pensaernïaeth ym Mhrifysgol Harvard, ac enillodd ddinasyddiaeth Americanaidd ym 1944. Sefydlodd The Architects Collaborative (TAC) ym 1946 gyda chwech o'i gyn-fyfyrwyr, a ddyluniodd sawl adeilad ar draws y byd: Canolfan Graddedigion Harvard, Llysgenhadaeth UDA yn Athen, a Phrifysgol Baghdad. Ymddeolodd Gropius o Harvard ym 1952, ond fe barhaodd yn aelod gweithgar o TAC hyd ei farwolaeth yn 86 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Walter Gropius. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Awst 2017.